Lynette Roberts

Oddi ar Wicipedia
Lynette Roberts
Ganwyd4 Gorffennaf 1909 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1995 Edit this on Wikidata
Glan-y-fferi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Central School of Art and Design Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodKeidrych Rhys Edit this on Wikidata
Carreg fedd Lynette Roberts yn Llanybri.

Bardd Cymreig oedd Lynette Roberts (ganwyd Evelyn Beatrice Roberts; 4 Gorffennaf 190926 Medi 1995), ganwyd yn Buenos Aires i rieni Cymreig.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Symudodd i Lundain pan oedd yn ferch ifanc, gan astudio yn yr Ysgol Ganolog Celf a Chreft (rhan o Goleg Canolog Celf a Dylunio Sant Martin erbyn hyn). Ymsefydlodd yng Nghymru yn yr 1940au, lle bu'n paentio, a chyhoeddwyd ei barddoniaeth gan wasg Faber and Faber (Poems (1944), Gods with stainless ears: a heroic poem (1951)).

Priododd â'r bardd Keidrych Rhys yn Llansteffan, a bu'n byw, mewn tlodi i gymharu a beth arferai gydag, yn Llanybri; pentref a'i anfarwolwyd yn "Poem from Llanybri". Roedd y gerdd wedi ei chyfeirio at fardd arall, Alun Lewis, a chyfaddefodd Roberts ei bod wedi ei denu ato.[1]

Cafodd Roberts a Rhys ddau o blant (merch, Angharad, yn Ebrill 1945, a mab, Prydein, yn Rhagfyr 1946) cyn ysgaru ym 1949.

Cysegrwyd The White Goddess i Roberts gan Robert Graves yn yr argraffiad cyntaf, a chyflenwodd hi'r rhan helaeth o'r deunydd Cymreig a ddefnyddwyd ganddo.

Gwaith llên oedd The Endeavour: Captain Cook's first voyage to Australia (1954). Yn ei bywyd wyr, gwadodd ei gwaith, a gwrthododd adael iddo gael ei ail-argraffu. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd casgliad o'i cherddi gan Seren Books, ond gorfodwyd hwy i'w dynnu yn ôl oherwydd problemau cyfreithiol gydag ystad Roberts. Cyhoeddwyd cyfrol arall o Collected Poems wedi hir aros, yn 2006 gan Carcanet, a olygwyd gan Patrick McGuinness.[2]

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • 1942 - Dwy gerdd: 'To a Welsh woman' a 'The circle of C' yn Caseg broadsheets of Welsh poetry rhif.4 (Caseg Press)
  • 1944 - [Eight poems in] Modern Welsh Poetry; gol. Keidrych Rees (Faber & Faber)
  • 1944 - Poems (Faber & Faber)
  • 1944 - An introduction to village dialect: with seven stories (The Druid Press)
  • 1951 - Gods with stainless ears: a heroic poem (Faber & Faber)
  • 1954 - The Endeavour: Captain Cook’s first voyage to Australia (Peter Owen)
  • 1983 - 'Parts of an autobiography', Poetry Wales, 19, rhif.2, pp. 30–50
  • 2005 - 'A South American childhood' [adysgrif sgwrs radio], New Welsh Review, Rhif 70 (Gaeaf 2005)
  • 2005 - Collected poems; gol. Patrick McGuinness (Carcanet) ISBN 1857548426
  • 2008 - Diaries, letters and recollections; gol. gyda cyflwyniad gan Patrick McGuinness (Carcanet) ISBN 1857548566

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • 'Obituary: Lynette Roberts', The Times, 4 Hydref, 1995, tud.1
  • 'Obituary: Lynette Roberts', The Daily Telegraph, 16 Tachwedd, 1995, tud.33
  • Bainbridge, Charles, 'Around my cradled self' [adolygiad o Collected Poems], The Guardian, Mawrth 11, 2006, tud.18
  • Conran, Anthony, 'Lynette Roberts, 1909-1995, and In Memoriam', Poetry Wales, 31, rhif.3, (1996), tud.3–4
  • Conran, Anthony, 'Lynette Roberts: the Lyric Pieces', Poetry Wales, 19, no.2 (1983), 125-133
  • Conran, Anthony, 'Lynette Roberts: War Poet', Anglo-Welsh Review, 65, (1979), 50-62. Cyhoeddwyd hefyd ar tud.188–200, The Cost of strangeness: essays on the English poets of Wales (Llandysul: Gwasg Gomer, 1982 ISBN 0850888654)
  • Jarvis, Matthew, 'Lynette Roberts,Collected Poems' [adolygiad], Poetry Wales, 42, rif.1, (Haf 2006), 35–38
  • Lewis, Alun, 'Correspondence with Lynette Roberts and Keidrych Rees', Wales,VIII, no.28 (Chwefror/Mawrth 1948), 410–431
  • Lloyd, Joanna, 'The Correspondence between Lynette Roberts and Robert Graves, 1943–1952', Poetry Wales, 19, Rhif.2, (1983), 51–124
  • Lloyd-Morgan, Ceridwen, 'Insights from an outsider' [adolygiad o Collected Poems], Planet: the Welsh International, Rhifyn 176
  • McGuinness, Patrick, 'The Poetry of Lynette Roberts', PN Review, 32, Rhifyn 2 [Rhif 166] (Tachwedd-Rhagfyr 2005), 52-59
  • Matthews, Steven, 'I think alone' [review of Collected Poems], Poetry Review, 96, Rhif.1 (Gwanwyn 2006)
  • Pikoulis, John, 'Awen warcheidiol: mae cerddi anarferol Lynette Roberts yn ei gosod ymhlith y goreuon o'r llenorion Eingl-Gymreig', Barn 394 (1995), 44-5
  • Pikoulis, John, '[Introduction to] Six Poems by Lynette Roberts', Poetry Wales, 34, Rhif.2 (Hydref 1998), p. 3
  • Pikoulis, John, 'Lynette Roberts and Alun Lewis', Poetry Wales, 19, Rhif.2, (1983) tud.9-29
  • Pikoulis, John, 'Obituary: Lynette Roberts', The Guardian, 13 Hydref 1995, tud.117
  • Skoulding, Zoe, 'Review of Lynette Roberts-Collected Poems', Poetry Wales, 41, tud.4, (Gwanwyn 2006), 5-7
  • Stephens, Meic, 'Obituary: Lynette Roberts', The Independent, 28 Medi, 1995, tud.18
  • Wheale, Nigel, 'Beyond the Trauma Stratus: Lynette Roberts' Gods with Stainless Ears and the Post-War Cultural Landscape', Welsh Writing in English: A Yearbook of Critical Essays, 3, (1997), 98-117
  • Wheale, Nigel, 'Lynette Roberts: Legend and Form in the 1940s', Critical Quarterly, 36, Rhif. 3 (Hydref 1994), 4–19

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]