Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llynnoedd Cosmeston)
Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, parc gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4152°N 3.1867°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Lleolir Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston (Saesneg: Cosmeston Lakes Country Park), a adnabyddir fel rheol fel Llynnoedd Cosmeston, yn nwyrain Bro Morgannwg, tua phum milltir i'r gorllewin o ddinas Caerdydd rhwng Penarth a'r Sili.

Mae'r parc yn cynnwys dros 100 hectar. Ceir llyn mawr yng nghanol y parc gyda phyllau eraill, gwlybtiroedd a choed o'i gwmpas. Ger y llyn mwyaf darganfuwyd safle pentref canoloesol. Ar gwr dwyreiniol y parc ceir maes criced Clwb Criced Morgannwg.

Eleirch ar y llyn

Mae hanes y llynnoedd sy'n ganolbwynt i'r parc yn cychwyn gyda datblygu chwareli calchfaen yno yn y 1890au. Peidiodd y gwaith yn 1970. Llenwyd rhai o'r pyllau gan ffynonellau naturiol i greu llynnoedd. Cafodd y tipiau gwastraff eu tirweddu wedyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.