Pentref Canoloesol Cosmeston

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pentref Canoloesol Cosmeston

Pentref canoloesol wedi ei ail-greu yn Cosmeston ger Larnog ym Mro Morgannwg yw Pentref Canoloesol Cosmeston. Saif heb fod ymhell o Penarth a dinas Caerdydd, o fewn Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.

Tyfodd pentref gwreiddiol Cosmeston o gwmpas tŷ caerog a adeiladwyd tua'r 12fed ganrif gan deulu De Costentin, oedd yn un o'r teuluoedd Normanaidd cyntaf i ddod i dde Cymru tua dechrau'r ddeuddegfed ganrif. Ymddengys fod y tŷ hwnnw eisoes yn adfail erbyn 1437. Cafwyd hyd i weddillion y pentref yn y 1980au, a chafodd ei ail-greu fel y byddai yn y 14eg ganrif.

Dolen allanol[golygu]