Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
Oddi ar Wicipedia
Lleolir Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston (Saesneg: Cosmeston Lakes Country Park), a adnabyddir fel rheol fel Llynnoedd Cosmeston, yn nwyrain Bro Morgannwg, tua phum milltir i'r gorllewin o ddinas Caerdydd rhwng Penarth a'r Sili.
Mae'r parc yn cynnwys dros 100 hectar. Ceir llyn mawr yng nghanol y parc gyda phyllau eraill, gwlybtiroedd a choed o'i gwmpas. Ger y llyn mwyaf darganfuwyd safle pentref canoloesol. Ar gwr dwyreiniol y parc ceir maes criced Clwb Criced Morgannwg.
Mae hanes y llynnoedd sy'n ganolbwynt i'r parc yn cychwyn gyda datblygu chwareli calchfaen yno yn y 1890au. Peidiodd y gwaith yn 1970. Llenwyd rhai o'r pyllau gan ffynonellau naturiol i greu llynnoedd. Cafodd y tipiau gwastraff eu tirweddu wedyn.
Gweler hefyd[golygu]
Dolen allanol[golygu]
- Tudalen swyddogol ar wefan Cyngor Sir Bro Morgannwg