Lloyd Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lloyd Jones
Ganwyd 1951
Gwytherin, Conwy, Cymru
Yn enwog am Ennill Llyfr y Flwyddyn 2007
Galwedigaeth Golygydd, darlithydd, nyrs ac awdur

Nofelydd Cymreig yw Lloyd Jones (ganwyd 1951).

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Lloyd Jones ym Mryn Clochydd, Gwytherin, ger Llanrwst. Ar hyn o bryd, mae'n byw ger Llanfairfechan ac mae wedi gweithio am gyfnod ar fferm, fel golygydd papur newydd, darlithydd, a nyrs mencap.[1]

Cyhoeddwyd ei ddwy nofel gyntaf gan wasg Seren, y cyntaf oedd Mr Vogel (2004), enillydd Gwobr McKitterick, a seliwyd yn rhannol ar daith cerdded Jones o amgylch Cymru, taith 1,000 milltir o hyd ac ef oedd y Cymro cyntaf i'w gwblhau. Ysbrydolwyd ei ail lyfr Mr Cassini (2006), yn rhannol ar ei deithiau cerdded ar draws Gymru mewn amryw o wahanol gyfeiriadau; enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2007.

Casgliad o straeon byrion a thraethodau oedd ei drydydd llyfr, My First Colouring Book, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2008. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf yn yr iaith Gymraeg, Y Dŵr, gan Y Lolfa ym Mehefin 2009.[2]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Authors. Seren.
  2.  'Surreal' novel wins book award. BBC (9 Gorffennaf 2007).

Dolenni allanol[golygu]