Lligwy (siambr gladdu)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°21′00″N 4°15′10″W / 53.350045°N 4.252699°W / 53.350045; -4.252699

Siambr gladdu Llugwy.

Mae Llugwy neu Lligwy yn siambr gladdu gerllaw Moelfre ar Ynys Môn sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 2500 C.C.. Mae'n siambr gladdu sylweddol o ran maint, gyda charreg uchaf anferth. Nid yw'n uchel iawn, gan bod y cerrig sy'n cynnal y garreg yma yn weddol isel, a'r siambr wedi ei chreu trwy gloddio'r graig oddi tanodd. Cyfeirnod OS: SH501860.

Bu cloddio archeolegol yma yn 1909, a darganfuwyd gweddillion rhwng 15 a 30 o unigolion ynghyd a chrochenwaith oedd yn awgrymu fod y siambr yn dyddio o ran olaf y cyfnod neolithig.

Mae gweddillion Din Lligwy o'r cyfnod Rhufeinig gerllaw.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1


Bodowyr Siamberi Claddu ar Ynys Môn Sbiral triphlyg

Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd