Hyoscyamus niger

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llewyg yr iâr)
Hyoscyamus niger
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Solanales
Teulu: Solanaceae
Genws: Hyoscyamus
Rhywogaeth: H. niger
Enw deuenwol
Hyoscyamus niger
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol gwenwynol yw Hyoscyamus niger, hefyd a elwir yn Llewyg yr iâr (Saesneg: Black henbane).[1][2] Mae'n perthyn i'r teulu Solanaceae.[3][4] Mae Hyoscyamus niger yn gynhenid i Ewrop a Siberia, ac mae wedi hen ymgartrefu ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon.[5]

Geirdarddiad ac enwau eraill[golygu | golygu cod]

Daw'r enw Cymraeg o'r ffaith bod Hyoscyamus niger yn tyfu'n wyllt, ac yn aml mewn gerddi ac ar ffermydd. Sylwai ffermwyr bod yr ieir yn mynd yn "wallgof" ar ôl bwyta'r planhigyn oherwydd effaith yr alcaloidau tropên. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn, gan gynnwys Crys y Brenin,[2] bela,[2] bele,[2] belau,[2] ffa'r moch,[2] gwenwyn yr ieir,[2] henban,[2] a parfyg.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. "List of plant names for website" (PDF). Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 18 Mawrth 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 2.8 Geiriadur Prifysgol Cymru
  3. Kennedy, David O. (2014). "The Deliriants - The Nightshade (Solanaceae) Family". Plants and the Human Brain. New York: Oxford University Press. tt. 131–137. ISBN 9780199914012. LCCN 2013031617.
  4. Roberts & Wink 1998, t. 31
  5. "Hyoscyamus niger | Online Atlas of the British and Irish Flora". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-03. Cyrchwyd 2020-11-25.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: