Lisa Cholodenko

Oddi ar Wicipedia
Lisa Cholodenko
Ganwyd5 Mehefin 1964 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, ysgrifennwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLaurel Canyon, The Kids Are All Right Edit this on Wikidata
PriodWendy Melvoin Edit this on Wikidata
PartnerWendy Melvoin Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrimetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Limited Series, Movie, or Dramatic Special Edit this on Wikidata

Awdures-sgrin a chyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Lisa Cholodenko (ganwyd 5 Mehefin 1964) sydd hefyd wedi gwneud ei marc yn y byd teledu. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ffilmiau High Art (1998), Laurel Canyon (2002), a The Kids Are All Right (2010). Enillodd Wobr yr Ysbryd Rhydd, Annibynnol am y Sgript Gorau (Independent Spirit Award for Best Screenplay) yn 2010 am The Kids Are All Right (2010)

Mae wedi cyfarwyddo nifer o weithiau teledu, gan gynnwys y gyfres-bitw Olive Kitteridge (2014) a ddaeth a gwobr Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Limited Series, Movie, or Dramatic Special iddi yn ogystal â Directors Guild of America Award for Outstanding Directing – Miniseries or TV Film.[1][2] [3][4][5]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Los Angeles ar 5 Mehefin 1964 ac fe'i magwyd mewn teulu Iddewig, rhyddfrydol.[6][7] Ymfudodd ei mam-gu a'i thad-cu o'r Wcráin; roedd hen-daid ei thad hefyd yn dod o Kyiv, Wcráin.[8]

Coleg[golygu | golygu cod]

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia, Prifysgol San Francisco ac Ysgol Gelf Columbia.[9][10]

Astudiodd Cholodenko anthropoleg, astudiaethau ethnig, ac astudiaethau menywod ym Mhrifysgol Talaith San Francisco. Teithiodd i India a Nepal a threuliodd 18 mis yn Jerwsalem ar ôl graddio.[11]

Yna ymunodd ag Ysgol y Celfyddydau, Prifysgol Columbia yn 1992, gan ennill MFA mewn ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer y sgrin yn 1997, lle'r oedd James Schamus yn un o'i hathrawon, a fyddai'n dod yn Brif Swyddog Gweithredol y cwmni Focus Features, yn ddiweddarach.[12]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd yn y diwydiant ffilm yn Efrog Newydd ar ddechrau'r 1990au. Gweithiodd fel prentis golygydd ar Boyz n the Hood gan John Singleton ac fel golygydd cynorthwyol ar Used People gan Beeed Kidron.[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Tabach-Bank, Lauren (13 Awst 2014). "Flipping the Script: Lisa Cholodenko". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-03. Cyrchwyd 3 Medi 2014.
  2. Olozia, Jeff (13 Awst 2014). "Sam Taylor-Johnson, Lisa Cholodenko, Sarah Polley and Other Female Directors on the Movies That Influenced Them". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-20. Cyrchwyd 3 Medi 2014.
  3. Alma mater: "Hall of Fame | Alumni Association". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2023. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023. Pam Grady. "Close-Up with Lisa Cholodenko | SF State Magazine" (yn Saesneg). Prifysgol San Francisco. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023. Lisa Cholodenko (B.A., '87) could hardly believe the news.
  4. Man gwaith: https://www.acmi.net.au/creators/79284.
  5. Galwedigaeth: https://www.acmi.net.au/creators/79284.
  6. Gross, Terry (8 Gorffennaf 2010). "Director Lisa Cholodenko On Conceiving 'The Kids'". Fresh Air. NPR. Cyrchwyd 17 Medi 2010.
  7. Greenberg, Brad A. (3 Gorffennaf 2009). "State Senate Hearing on Madoff Losses". Jewish Journal of Greater Los Angeles. Cyrchwyd 3 Medi 2014.
  8. "Dateline New York: New Yorkers bring culture to Catskills by Helen Smindak" (Press release). 13 Medi 1998. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2016-03-04. https://web.archive.org/web/20160304054104/http://www.ukrweekly.com/old/archive/1998/379820.shtml. Adalwyd 2019-07-07.
  9. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  10. Dyddiad geni: "Lisa Cholodenko". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  11. Cooke, Rachel (2 Hydref 2010). "Lisa Cholodenko: 'I wanted to make a film that was not sanctimonious or sentimental'". The Guardian. Cyrchwyd 29 Hydref 2013.
  12. Simpson, David (20 Rhagfyr 2010). "Awards Watch Roundtable: The Directors (full video)" (video). The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 29 Hydref 2013.
  13. Toumarkine, Doris (28 Mehefin 2010). "Family dynamic: Lisa Cholodenko explores modern parenthood in 'The Kids Are All Right'". Film Journal International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-02. Cyrchwyd 29 Mehefin 2010.