Laurence Eusden

Oddi ar Wicipedia
Laurence Eusden
Portread siarcol neu sialc o Laurence Eusden, yn dwyn y dorch lawryf farddol yn ei law, gan Jonathan Richardson (tua 1720).
Ganwyd6 Medi 1688 (yn y Calendr Iwliaidd), 1688 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Riding Gogleddol Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw27 Medi 1730 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Coningsby Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Bardd Seisnig yn yr iaith Saesneg oedd Laurence Eusden (Medi 168827 Medi 1730) a fu'n Fardd Llawryfog Prydain Fawr o 1718 hyd at ei farwolaeth. Ysgrifennodd folawdau a cherddi llongyfarch at bendefigion, gwleidyddion a llenorion o garfan wleidyddol y Chwigiaid, gan ennill eu nawddogaeth. Bellach, fe'i cofir yn bennaf am fod yn gyff gwawd i Alexander Pope yn "The Dunciad" yn hytrach nag am ei farddoniaeth ei hun.

Bywyd cynnar a gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Bedyddiwyd Laurence Eusden ar 6 Medi 1688 yn Spofforth, ger Harrogate, Swydd Efrog. Rheithor y plwyf oedd ei dad, hefyd o'r enw Laurence Eusden, a fu farw ym 1699. Aeth i Ysgol Sant Pedr, Efrog, cyn iddo gael ei dderbyn yn bensiynwr (hynny yw, yn talu ffïoedd dysgu ei hun) yn 16 oed gan Goleg y Drindod, Caergrawnt, ar 24 Mawrth 1705. Penodwyd yn sgolor yn ei goleg ar 2 Ebrill 1706, ac enillodd ei radd baglor yn y celfyddydau ym 1708. Derbyniwyd yn is-gymrawd yng Ngholeg y Drindod ar 2 Hydref 1711, ac yn sgil ennill ei radd meistr yn y celfyddydau cafodd ddyrchafiad i gymrodoriaeth lawn ar 2 Gorffennaf 1712. Penodwyd yn drydydd is-ddarllenydd ar 2 Hydref 1712, ac yn ail is-ddarllenydd ym 1713. Cododd ei gyflog o'r coleg am y tro olaf ym 1720, ond bu'n breswyl yno nes 1725.[1]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Roedd nifer o gymrodorion Coleg y Drindod yn elyniaethus i'r meistr yno, Richard Bentley. Nid un o'r garfan honno oedd Eusden, ac ysgrifennodd gerdd longyfarch i ddathlu ailwampiad capel y coleg dan Bentley. Cyfansoddodd hefyd farddoniaeth serch, gan gynnwys cyfieithiadau o Claudius Claudianus a Musaeus o Athen, a'r ddychangerdd weddol goch "Verses at the Last Publick Commencement in Cambridge" (1714). Cyfrannodd Eusden a sawl bardd arall, yn eu plith John Dryden a Samuel Garth, at gasgliad o drosiadau Saesneg o "Metamorphoses" gan Ofydd (1717).[1]

Ymddengys Eusden ymhlith rhestr Richard Steele o gyfranwyr at bapurau newydd The Spectator a The Guardian, a phriodolir John Nichols iddo ysgrifennu llythyrau yn rhifynnau 54, 78, a 87 o'r Spectator (1711) a rhifynnau 95 a 124 o'r Guardian (1713). Mae'n sicr iddo gyfrannu'r trosiadau o waith Claudianus yn The Guardian (127 a 164) a ailargraffir, gyda deg cerdd arall ganddo, yn y casgliad Poetical Miscellanies (1714) dan olygyddiaeth Steele. Cynhwysir cerddi clod gan Eusden a chwech o'i gyfoedion yn gyflwynol i seithfed argraffiad (1713) y ddrama Cato, a Tragedy gan Addison. Bu'r gerdd "To a Lady that Wept at Hearding Cato Read", a gynhwysir yn y Miscellanies, yn destun parodi gan Alexander Pope ar ffurf "On a Lady who P—St at the Tragedy of Cato".[1]

Yn 1717 cyhoeddodd Eusden gerdd wenieithus i ddathlu priodas John Pelham-Holles, Dug Newcastle a'r Arglwyddes Henrietta Godolphin, wyres Dug Marlborough. Penodwyd Dug Newcastle yn Arglwydd Siambrlen a fe wobrwyodd Eusden drwy ei benodi yn Fardd Llawryfog yn sgil marwolaeth Nicholas Rowe yn Rhagfyr 1718. Eusden ydy'r bardd ieuengaf i gael ei benodi i'r swydd honno, yn 30 oed. Dros y ddeng mlynedd i ddod, llifai yn rheolaidd o'i ysgrifbin awdlau i ddathlu'r flwyddyn newydd a chanmoliaethau mydryddol i nodi penblwyddi'r teulu brenhinol, yn ogystal â phenillion cynffongar eraill gyda'r nod o ennill ffafr noddwyr bonheddig.[1]

Er gwaethaf ei boblogrwydd ymhlith y Chwigiaid, cafodd Eusden ei ddilorni gan nifer o'i gyfoedion. Ymhlith y dychangerddi sydd yn ei watwar mae "The Election of a Poet Laureate" (1723) gan John Sheffield, Dug 1af Buckingham a Normanby; "The Battle of the Poets" (1725) gan Thomas Cooke, a "Directions for a Birth-Day Song" (1729) gan Jonathan Swift. Ysgrifennwyd y sarhadau enwocaf yn ei erbyn gan Alexander Pope, yn "Peri Bathous" (1728), y ffug-arwrgerdd "The Dunciad" (1728), a "Dunciad variorum" (1729). Lladdo Pope ar ddiflastod y farddoniaeth a meddwdod y bardd. Sonir Richard Savage hefyd am hoffter Eusden o'r ddiod gadarn, yn ei raglith ei "An Author to be Lett" (1729), ond mae'n bosib bod y sen hon yn gyfeiriad cyffredin at y gasgen o sac (gwin gwyn sych o Sbaen neu'r Ynysoedd Dedwydd) a delid yn flynyddol i'r Bardd Llawryfog, yn hytrach na chyhuddiad personol yn erbyn y dyn. Serch yr holl ymosodiadau yn erbyn ei farddoniaeth a'i gymeriad, ni ddaw ymateb o ysgrifbin Eusden.[1] Ysgrifennodd Pope ragor o linellau yn ei erbyn wedi ei farwolaeth, a pharhaodd y farn isel o waith Eusden am flynyddoedd maith. Mae'r bennod fer amdano yn y gyfrol The Lives of the Poets-Laureate (1853) yn dyfynnu chwech o'i linellau yn unig, ond sawl pennill o'r cerddi gan Cooke a Dug Buckingham sydd yn ei watwar.[2]

Gyrfa eglwysig a diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Cafodd Eusden ei ordeinio'n ddiacon yn esgobaeth Lincoln ar 20 Medi 1724, a'i urddo'n offeiriad ar 25 Mawrth 1729. Gwasanaethodd yn gaplan i Richard Verney, Arglwydd Willoughby de Broke, o 1725 i 1730, pryd gafodd ei benodi'n rheithor Coningsby, Swydd Lincoln. Ymhen fawr o dro, bu farw'r Parchedig Laurence Eusden yn Coningsby ar 27 Medi 1730 yn 42 oed, a fe'i claddwyd yno tridiau yn ddiweddarach. Canfuwyd yn ei eiddo lawysgrifau o'i gyfieithiadau o waith Torquato Tasso yn ogystal â bywgraffiad o'r bardd hwnnw.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) James Sambrook, "Eusden, Laurence (1688–1730)", Oxford Dictionary of National Biography (2004). Adalwyd ar 3 Chwefror 2021.
  2. Wiltshire Stanton Austin a John Ralph, The Lives of the Poets-Laureate (Llundain: Richard Bentley, 1853), tt. 239–45.
Rhagflaenydd:
Nicholas Rowe
Bardd Llawryfog Prydain Fawr
10 Rhagfyr 1718 – 27 Medi 1730
Olynydd:
Colley Cibber