Caplan

Oddi ar Wicipedia
Caplan Anglicanaidd yn y Fyddin Brydeinig yn paratoi'r allor yn ei gapel, rhyw 200 llath o flaen y gad ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1918).

Clerigwr sydd yn cynnal gwasanaethau crefyddol mewn sefydliad sydd fel arall yn seciwlar yw caplan. Ceir caplaniaid mewn ysbytai, ysgolion a phrifysgolion, carchardai, y lluoedd arfog, yr heddlu, y frigâd dân, a busnesau.

Caplaniaid ar y môr[golygu | golygu cod]

Dau gaplan o Lynges yr Unol Daleithiau yn codi'r groes Gristnogol ar fwrdd hedfan yr USS Nimitz ar Ddydd Sul y Pasg 2003.

Oherwydd peryglon bywyd ar y môr, mae presenoldeb cynghorwyr crefyddol ar longau wedi cysuro morwyr ers oesoedd yr Henfyd. Mae'n debyg i forwyr Ffenicia a Charthago deithio gydag offeiriaid i alw ar nawdd Asherah, duwies y môr. Aeth daroganwyr ar longau rhyfel y Rhufeiniaid i ddehongli'r argoelion a rhagweld buddugoliaeth neu fethiant yn y frwydr i ddod. Yn yr oes fodern, dynodir caplaniaid yn anymladdwyr yn ôl Confesiynau Genefa.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David S. T. Blackmore, The Seafaring Dictionary: Terms, Idioms and Legends of the Past and Present (Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company, 2009), t. 69.
Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.