La Mancha

Oddi ar Wicipedia
La Mancha
Mathardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Albacete, Castilla-La Mancha Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd30,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr610 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.4°N 3°W Edit this on Wikidata
Map

Mae La Mancha yn wastadedd uchel (610m [2000 troedfedd]) yng nghanol Sbaen, ychydig i'r de o ddinas Madrid. Mae'n ffurfio rhan ddeheuol cymuned ymreolaethol Castilla-La Mancha, ac yn cynnwys rhannau o daleithiau Cuenca, Toledo ac Albacete, a'r rhan fwyaf o Ciudad Real.

La Mancha yn Sbaen

Er bod yr hinsawdd yn sych, mae'r gwastadedd yn un ffrwythlon. Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant, gyda chnydau fel ŷd, haidd a gwinwydd. Mae cadw defaid yn bwysig hefyd, a chynhyrchir y Caws Manchego enwog o'u llaeth. Nodweddir yr ardal gan ei melinau gwynt.

Ymhlith pobl enwog o La Mancha mae'r cyfarwyddwr sinema Pedro Almodóvar, yr arlunwyr Antonio López a'i ewythr Antonio López Torres, a'r actores Sara Montiel. Cymeriad dychmygol yw'r enwocaf o'r cwbl fodd bynnag, oherwydd yma y lleolodd Miguel de Cervantes ei nofel Don Quixote de La Mancha.

Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato