Kate Forbes

Oddi ar Wicipedia
Kate Forbes
Ganwyd6 Ebrill 1990 Edit this on Wikidata
Dingwall Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 5th Scottish Parliament, Member of the 6th Scottish Parliament, Cabinet Secretary for Finance and the Economy Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata

Gwleidydd o'r Alban yw Kate Elizabeth Forbes (ganwyd 6 Ebrill 1990). Mae hi'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP), ac yn Aelod o Senedd yr Alban (ASA) dros etholaeth Skye, Lochaber a Badenoch ers etholiad Senedd yr Alban yn 2016. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Economi rhwng 2020 a 2023.

Cafodd Forbes ei geni yn Dingwall, ond cafodd ei magu yn India a’r Alban. Cafodd ei haddysg mewn ysgol iaith Gaeleg,[1] ac enillodd radd BA mewn hanes yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Wedyn enillodd MSc mewn hanes alltud a mudo o Brifysgol Caeredin. Priododd Alasdair "Ali" MacLennan yn 2021.[2]

Arweinyddiaeth yr SNP[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ymddiswyddiad Nicola Sturgeon fel arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, ym mis Chwefror 2023, safodd Forbes ar gyferyr arweinyddiaeth. Y ddau ymgeisydd arall oedd Humza Yousaf a enillodd ac Ash Regan.[3]

Er bod canmol i allu gweinyddu Forbes fel Gweinidog Cyllid roedd gwrthwynebiad i'w hagwedd mwy ceidwadol gan gynnwys gwrthwynebiad bersonol i briodas hoyw, hawliau trawrywedd ac erthyliad.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Kate Forbes". Scottish National Party (yn Saesneg). 5 September 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 February 2022. Cyrchwyd 8 February 2022.
  2. Maclennan, Scott (29 Gorffennaf 2021). "Exclusive Pictures: Dingwall MSP Kate Forbes gets married in her hometown". Ross-Shire Journal (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2022. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2021.
  3. "Ethol Humza Yousaf yn arweinydd newydd SNP". Newyddion Cymru Fyw BBC. 27 Mawrth 2023.
  4. "Ymgyrch y tri i ennill arweinyddiaeth yr SNPar fi'n dod i ben". BBC Cymru Fyw. 26 Mawrth 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]