Kaspar Schwenckfeld

Oddi ar Wicipedia
Kaspar Schwenckfeld
Engrafiad copr o Kaspar Schwenckfeld gan Theodor de Bry.
FfugenwRufus Sarmentarius, Kaspar Gryseneggerus, Kaspar Greysenecker Edit this on Wikidata
Ganwyd1489 Edit this on Wikidata
Osiek, Lubin County, Osiek, Silesian Voivodeship Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1561 Edit this on Wikidata
Ulm Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Alma Mater Viadrina
  • Prifysgol Cologne Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, athronydd, diwygiwr Protestannaidd, cyfrinydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
MudiadSpiritualism (theology) Edit this on Wikidata

Diwinydd Protestannaidd a phregethwr Almaenig oedd Kaspar Schwenckfeld von Ossig (148910 Rhagfyr 1561) a fu'n arweinydd y Diwygiad Protestannaidd yn Silesia.

Ganed ef i deulu o'r bendefigaeth yn Ossig (bellach Osiek yng Ngwlad Pwyl), Silesia Isaf. Astudiodd ym mhrifysgolion Cwlen a Frankfurt an der Oder. Gwasanaethodd yn gynghorydd i sawl llys yn y cyfnod o 1511 i 1523. Ym 1518 cafodd ei ddeffroad ysbrydol, ac ym 1525 aeth i Wittenberg i gyflwyno ei farn am yr Ewcharist i Martin Luther. Bu anghytundeb rhyngddynt, ac felly dychwelodd Schwenckfeld i Silesia i ymddatblygu ei ddiwinyddiaeth.

Trwy ei ddull diwygiadol, a elwir y Ffordd Ganol, ceisiodd Schwenckfeld arloesi ffordd amgen rhwng athrawiaethau'r Eglwys Gatholig a'r Lwtheriaid. gan ganolbwyntio ar Iesu Grist yn hytrach na symbolau crefyddol allanol. Cyhoeddodd ei safbwyntiau gwrth-Gatholig a gwrth-Lwtheraidd, a châi ei ddiswyddo gan Ffredrig II, Dug Liegnitz, am hynny. Aeth i Strasbwrg ym 1529 ac yno cyfarfu â Sebastian Franck, Melchior Hofmann, Michael Servetus, Paracelsus, a Huldrych Zwingli. Zwingli a gyhoeddodd weithiau Schwenckfeld ar y sagrafennau, ond ni fyddai'r ddau yn cymodi eu gwahaniaethau diwinyddol ynglŷn â'r Ewcharist, ac felly ni châi Schwenckfeld ei wahodd i Gynulliad Marburg ym 1529.[1]

Aeth Schwenckfeld i'r synod yn Strasbwrg ym 1533 i amddiffyn ei syniadau, a rhyddid crefyddol yn gyffredinol, yn erbyn y diwygiwr Martin Bucer. Ni lwyddodd i ddwyn perswâd ar y Protestaniaid uniongred i ymarfer goddefiad crefyddol yn Strasbwrg, ac felly ymsefydlodd Schwenckfeld yn Ulm. Fe'i alltudiwyd o'r ddinas ym 1539 gan y Lwtheriaid, a oedd yn gwrthwynebu ei bwyslais ar ddwyfoli natur ddynol Crist. Cyhoeddodd draethawd yn amddiffyn ei athrawiaeth dan y teitl Grosse Confession ym 1540. Yn yr apoleg honno pwysleisir y gwahaniaethau rhwng y Lwtheriaid a'r Zwinglïaid ynglŷn â'r Ewcharist, mewn cyfnod pan oedd y tywysogion Protestannaidd yn ceisio ailgymodi'r ddwy garfan. Am hynny, cyhoeddwyd anathema yn ei erbyn gan Gynghrair Schmalkalden a gwaharddwyd ei lyfrau mewn tiroedd y Protestaniaid. Aeth Schwenckfeld ar ffo am weddill ei oes, a bu'n rhaid iddo ysgrifennu ei bamffledi a'i lyfrau yn ddienw. Bu farw yn Ulm tua 72 oed.

Ffurfiwyd mân-eglwysi a brawdoliaethau gan ei ddilynwyr, a buont yn dal eu tir yn ne'r Almaen hyd at y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Goroesodd niferoedd bach ohonynt, a sefydlwyd Eglwys Schwenckfeld yn Unol Daleithiau America ym 1909.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Kaspar Schwenckfeld von Ossig. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mawrth 2022.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • R. Emmet McLaughlin, Caspar Schwenckfeld, reluctant radical: his life to 1540 (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1986).
  • R. Emmet McLaughlin, The freedom of spirit, social privilege, and religious dissent: Caspar Schwenckfeld and the Schwenckfelders (Baden-Baden: V. Koerner, 1996).
  • Paul L. Maier, Caspar Schwenckfeld on the Person and Work of Christ (1959).
  • Selina Gerhard Schultz, Caspar Schwenckfeld von Ossig (1946).