Frankfurt an der Oder

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Marienkirche, Frankfurt an der Oder

Dinas yn nhalaith Brandenburg yn nwyrain yr Almaen yw Frankfurt an der Oder neu Frankfurt (Oder). Saif y ddinas ar afon Oder. Mae'r boblogaeth yn awr tua 64,700, gostyngiad o 20,000 o ddyddiau Dwyrain yr Almaen.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth afon Oder yn ffîn rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl, gyda'r canlyniad fod rhan o'r ddinas yn dod yn eiddo Gwlad Pwyl. Newidiwyd enw y rhan ar lan dde yr afon i Słubice. Cysylltir Frankfurt a Słubice gan bont o'r enw y Stadtbrücke, a ddaeth yn fan bwysig i groesi'r ffîn rhwng y ddwy wlad.