Kailash

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kailash
Himalaya
Wyneb gogleddol Kailash
Llun Wyneb gogleddol Kailash
Uchder 6,638m / 21,778 troedfedd
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Tibet

Mynydd sanctaidd 6,638 m (21,778 troedfedd) o uchder yng nghadwyn mynyddoedd Gangdisê yn Himalaya Tibet yw Kailash (Kailāśā), y cyfeirir ato hefyd fel Mynydd Kailash (Devanagari: कैलाश (पर्वत) Kailāśā (Parvata); Tibeteg: Gangs Rin-po-che). Wrth odre'r mynydd gorwedd tarddleoedd rhai o'r afonydd mwyaf yn Asia, sef Afon Indus, Afon Sutlej (un o brif lednentydd yr Indus), Afon Brahmaputra (Tsang-po), ac Afon Karnali (un o lednentydd mawr Afon Ganga). Mae'n fynydd sanctaidd i ddilynwyr pedair crefydd, sef Hindŵaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth a'r ffydd Bön. Mae Hindŵaid yn credu mai Kailash yw trigfeydd yr Arglwydd Shiva a'i gymar Parvati. Gorwedd y mynydd ger llynnoedd Manasarowar a Rakshastal yn Nhibet.

Does neb wedi ceisio dringo Kailash allan o barch ato fel mynydd sanctaidd. Erbyn heddiw, Kailash yw'r mynydd uchaf yn y byd sydd heb ei ddringo.

Tanka Bwdhaidd o Dibet sy'n dangos Kailash a Llyn Manasarowar

Ystyr y gair Sansgrit Kailāśā yw "crisial". Mae'r enw Tibeteg am y mynydd, Gangs Rin-po-che, yn golygu "gem werthfawr yr eiraoedd". Enw arall arno yw Tisé (Tibeteg: ཏི་སེ་). Mae'r Jainiaid yn ei law yn Ashtapada. Mae enwau eraill arno yn Hindŵaeth yn cynnwys Rajatadri ("Mynydd Arian") a Hemakuta ("Y Copa Euraidd").

Mae Kailash yn gyrchfan pererindod ers canrifoedd lawer. Fe'i hystyrir yn drigfod Shiva a Parvati (Duwies y Mynyddoedd) ac mae rhai yn credu ei fod yn ffurf ddaearol o'r shivalinga ei hun. I'r Tibetiaid mae'n drigfod daearol y Bwdha Demchog ac fe'i cysylltir â thraddodiadau am Guru Rinpoche a Milarepa. Hyd at y 1950au, pan oresgynnwyd Tibet gan Weriniaeth Pobl Tsieina, arferai pererinion o India groesi'r Himalaya i Dibet i gylchu'r mynydd sanctaidd. Ers 1980 mae awdurdodau Tsieina wedi caniatáu i nifer fechan o bererinion wneud y daith, gan gychwyn o India neu Lhasa, ond dan arolygiaeth fanwl.