Lhasa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lhasa o'r Potala


Lhasa yw prifddinas draddodiadol Tibet a phrifddinas Talaith Ymreolaethol Tibet dan lywodraeth China. Y ddinas yw canolfan draddodiadol y Dalai Lama ac mae Bwdhaeth Tibet yn ei hystyried y ddinas fwyaf sanctaidd yn Tibet.

Mae'r ddinas yn un o'r rhai uchaf yn y byd, tua 3,650 m (11,975 troedfedd). Mae'r boblogaeth tua 255,000.

Ymhlith yr adeiladau o ddiddordeb mae Palas Potala, Teml Jokhang a Mynachlog Sera.

Yn 2006 agorwyd y rheilffordd uchaf yn y byd yn cysylltu Lhasa a Beijing. Mae'n ddatblygiad dadleuol, gan fod nifer o Dibetwyr yn gweld bygythiad o gynyddu'r mewnlifiad o bobl Han i Dibet, proses sy'n araf droi'r Tibetwyr yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain.


Flag of Tibet.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill