Julian Hopkin

Oddi ar Wicipedia
Julian Hopkin
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol Edit this on Wikidata

Meddyg, ymchwilydd ac athro prifysgol yw Julian Hopkin. Yn 2004, daeth yn Bennaeth ar Ysgol Feddygaeth newydd Prifysgol Abertawe.[1] Mae bellach yn Athro Meddygaeth Arbrofol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac yn Feddyg Anrhydeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.[2][3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed Hopkin yn Ystradgynlais, ac aeth i Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais cyn mynd ymlaen i Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, gan raddio MB ym 1972. Canolbwyntiodd ar hyfforddiant clinigol ôl-raddedig yng Nghaerdydd ac yna yn Rhydychen a Chaeredin, gan gynnwys cyfnod lle dylanwadwyd arno gan John Crofton. Cychwynnydd ar brofion cemotherapi llwyddiannus ar gyfer diciâu. Ymgymerodd Hopkin â hyfforddiant gwyddonol (Meistr a Doethuriaeth) yn Uned Geneteg Ddynol MRC ym Mhrifysgol a Chyngor Ymchwil Meddygol Caeredin.[4][4] [5][6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ; Archifwyd 2016-11-28 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 1 Mai 2019
  2. "Fears growing over car pollution". Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016 – drwy www.bbc.co.uk.
  3. "Julian Hopkin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-01. Cyrchwyd 2019-05-01.
  4. 4.0 4.1 http://www.wales.nhs.uk/documents/W080152-Hlt.pdf
  5. Aelodaeth: https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021.
  6. Anrhydeddau: https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021. https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021. https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021.