Julian

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun dychmygol o'r ymerawdwr Julian

Flavius Claudius Julianus (331/33226 Mehefin 363) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 361 a'i farwolaeth. Weithiau gelwir ef yn Julian II i wahaniaethu rhyngddo ef a Didius Julianus (193).

Ganed Julian yng Nghaergystennin yn fab i Julius Constantinus, hanner brawd yr ymerawdwr Cystennin I. Pan oedd Julian yn blentyn lladdwyd llawer o'i deulu gan filwyr yn dilyn gorchymyn yr ymerawdwr cristionogol Constantius II yn 337. Yn ôl yr hyn a ddywedodd ef ei hun yn nes ymlaen, trodd hyn ef yn erbyn Cristionogaeth. Cadwyd ef a'i frawd Gallus yn y palas ymerodrol yn Macellum yn Cappadocia am chwe blynedd, gan gael eu haddysgu fel Cristionogion.

Yn ddiweddarach cafodd Julian addysg yng Nghaergystennin a Nicomedia, ac wedi ei benodi'n "Gesar" (is-ymerawdwr) bu'n astudio Neoplatoniaeth dan nifer o athrawon. Penderfynodd Julian droi at baganiaeth, er na chyhoeddodd hynny ar y pryd.

Gwnaed ei frawd Constantius Gallus yn ymerawdwr y dwyrain yn 351 ond dienyddiwyd ef y flwyddyn wedyn gan Constantius II. Galwyd Julian i Mediolanum (Milan) i gyfarfod yr ymerawdwr, ac ym mis Tachwedd 355 cyhoeddwyd ef yn Gesar gyda chyfrifoldeb am ran orllewinol yr ymerodraeth. Priododd a Helena, chwaer Constantius.

Bu Julian yn ymladd yn erbyn y llwythau Almaenaidd oedd yn bygwth ffiniau'r ymerodraeth. Cafodd gryn lwyddiant, ac adenillodd lawer o diriogaeth, gan ennill buggugoliaeth fawr ger Argentorata. Erbyn 360 yr oedd y ffin ar Afon Rhein yn ddiogel. Erbyn hyn yr oedd y berthynas rheng Julian a Constantinus yn gwaethygu, a pan hawliodd Constantinus draean o filwyr Julian ar gyfer ei ymgyrch ei hun yn erbyn Persia, gwrthryfelodd Julian. Cyhoeddwyd ef yn "Augustus" gan ei filwyr

Cychwynodd Julian a'i fyddin am y dwyrain i ymladd am yr orsedd, ond yna derbyniodd y newydd fod Constantius wedi marw o dwymyn yn Tarsus. Fel ymerawdwr yr oedd Julian yn rhydd i gyhoeddi ei fod yn bagan, ac ail-agorwyd temlau duwiau traddodiadol Rhufain. Ceisiodd wanhau'r Cristionogion mewn gwahanol ffyrdd. Yn 362 pasiwyd deddf oedd yn gwahardd Cristionogion rhag dysgu gramadeg a rhethreg, ac alltudiwyd rhai esgobion megis Athanasius.

Yn 363 cychwynnodd Julian tua'r dwyrain gyda byddin o 65,000 i ddechrau'r ymgyrch yn erbyn y Persiaid oedd wedi ei chynllunio gan Constantius. Dywedir ei fod yn ei gyffelybu ei hun i Alecsander Mawr. Yr oedd wedi gwneud cynghrair ag Arsaces, brenin Armenia. Yr oedd Hormisdas, brawd Sapor II, bernin Persia, wedi ffoi at y Rhufeiniaid yn 324, a'r bwriad oedd gosod Hormisdas ar yr orsedd yn lle ei frawd. Enillodd Julian fuddugoliaeth dros y Persiaid a chyrraedd at eu prifddinas Ctesiphon. Mewn ysgarmes ar 26 Mehefin 363 anafwyd Julian gan waywffon, ac er gwaethaf ymdrechion ei feddyg Oribasius o Pergamon, bu farw o'r clwyf.

Cyhoeddodd y fyddin swyddog ieuanc o Gristion, Jovian, ym ymerawdwr yn ei le. Yr oedd Jovian yn awyddus i ddychwelyd i diriogaeth Rufeinig i ddiogelu ei safle, felly gwnaeth heddwch a'r Persiaid gan ddychwelyd iddynt y rhan fwyaf o'r diriogaeth yn Armenia a goncwerwyd gan Diocletian yn 298. Claddwyd Julian yn Tarsus.

O'i flaen :
Constantius II
Ymerodron Rhufain
Julian
Olynydd :
Jovian