Cystennin II

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cystennin II

Flavius Claudius Constantinus, a adnabyddir fel Cystennin II (c. 316 - Ebrill 340), oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 9 Medi 337 a'i farwolaeth.

Cystennin oedd ail fab Cystennin I, a'r mab hynaf o'i briodas a Fausta. Ganed ef yn Arles, a chafodd ei fagu fel Cristion.

Ar 1 Mawrth 317 cyhoeddwyd ef yn "Gesar", ac yn 323, yn saith oed, cymerodd ran yn ymgyrch ei dad yn erbyn y Sarmatiaid. Yn ddeg oed cafodd ei benodi'n llywodraethwr Gâl. Cymerodd ran fel pennaeth y gwersyll yn ymgyrch ei dad yn erbyn y Gothiaid yn 332.

Wedi marwolaeth ei dad yn 337, daeth Cystennin II yn ymerawdwr ynghyd â'i ddau frawd, Constantius II a Constans. Rhannwyd yr ymerodraeth rhwng y tri brawd yn Panonia ym mis Medi yr un flwyddyn, a chafodd Cystennin Gâl, Prydain a Hispania.

Bu gan Cystennin ran yn nadleuon crefyddol y dydd, gan amddiffyn uniongrededd Cyngor Nicea a gwrthwynebu Ariaeth. Rhyddhaodd Athanasius o Alexandria, prif amddiffynydd uniongrededd, a gadael iddo ddychwelyd i'w esgobaeth. Yr oedd ei frawd Constantius II, ar y llaw arall, yn cefnogi yr Ariaid.

Ar y cychwyn yr oedd Cystennin yn gyfrifol am ofalu am fuddiannau ei frawd iau, Constans, oedd wedi derbyn Italia, Affrica ac Iliria. Pan gyrhaeddodd Constans i oed yn 340, gwrthododd Cystennin drosglwyddo grym iddo. Gorchfygwyd Cystennin gan Constans ym mrwydr Aquileya yn yr Eidal, a lladdwyd Cystennin yn y frwydr.

O'i flaen :
Cystennin I
Ymerodron Rhufain
Cystennin II

gyda Constantius II a Constans.
Olynydd :
Constantius II a Constans