Jonathan Davies (chwaraewr rygbi - ganwyd 1988))

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jonathan Davies
Jonathan Davies. Wales Grand Slam Celebration, Senedd 19 March 2012.jpg
Enw llawn Jonathan Davies

Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, sydd yn chwarae yn safle'r canolwr dros Gymru a Scarlets Llanelli yw Jonathan "Jon" Davies (ganwyd 5 Ebrill 1988).

Bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd Jonathan Davies yn Solihull yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond ymfudodd ei deulu i Bancyfelin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn ifanc. Mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Tâf, yn Hendy-gwyn ar Daf, cyn cychwyn cwrs Ffitrwydd a Chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae Joanthan yn siarad Cymraeg yn rhugl.[1]

Diddordebau[golygu]

Ar wahan i chwarae rygbi, mae Jonathan Davies yn mwynhau caiacio a chwarae criced.[1]

Gyrfa clwb[golygu]

Cychwynodd Jonathan Davies ei yrfa fel aelod ifanc o academi y Scarlets. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Glwb Rygbi Llanelli cyn cael ei ddyrchafu i ranbarth y Sgarlets yn 2006. Sgoriodd ei gais cyntaf i'r tîm yn erbyn Connacht ym mis Medi 2007.

Gyrfa rhyngwladol[golygu]

Cynhwyswyd Jonathan Davies yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Ogledd America yn 2009. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn Canada ym mis Mai 2009. Sgoriodd ddau gais yn erbyn Unol Daleithiau America.

Chwaraeodd Davies fel canolwr allanol Cymru i bartneru gyda Jamie Roberts yn safle'r canolwr mewnol ym mis Tachwedd 2009 yn erbyn yr Ariannin. Ym mis Ionawr 2010, enwyd Davies yn ngharfan Cymru ar gyfer Pencapwriaeth y Chwe Gwlad 2010, ond ni chafodd ei ddewis i chwarae yn unrhyw un o'r gemau.

Ffurfiodd Davies bartneriaeth cryf gyda'r maswr James Hook a'r canolwr Jamie Roberts ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.[2]

Cwpan y Byd, 2011[golygu]

Chwaraeodd Davies dros Gymru ym mhob un o'u saith gem yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2011, Seland Newydd. Sgoriodd gyfanswm o dri cais yn ystod y gystadleuaeth, yn erbyn Namibia, Ffiji ac Iwerddon.

Cyfeirnodau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

  • [1] Bywgraffiad ar Undeb Rygbi Cymru
  • [2] Bywgraffiad ar Wefan Scarlets Llanelli