Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin

Oddi ar Wicipedia
Logo
Yr Ariannin yn erbyn Lloegr, Twickenham, 2006; buddugoliaeth gyntaf yr Ariannin dros Loegr.
Yr Ariannin yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd 2011; enillodd Lloegr 13–9.

Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin, neu'r Pwmaod, yn cynrychioli'r Ariannin mewn gemau rhyngwladol rygbi'r undeb. Trefnir y tîm, sy'n chwarae mewn glas golau a gwyn, gan Undeb Rygbi'r Ariannin (UAR, o'r Sbaeneg: Unión Argentina de Rugby).

Hanes[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd y tîm eu gêm cyntaf yn 1910 yn erbyn tîm Ynysoedd Prydain. Ym mis Ebrill 2013 cafodd eu graddio yn wythfed yn y byd gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (BRRh), sef y tîm cryfaf ar gyfandir America. Mae'r Ariannin wedi cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers y cwpan cyntaf yn 1987. Mae'r tîm hefyd wedi ennill pob gêm yn eu hanes yn erbyn timau o gyfandir America, heblaw am ddwy golled yn erbyn Canada.

Serch bod pêl-droed yn fwy poblogaidd na rygbi yn yr Ariannin, Mae canlyniadau ardderchog y Pumas ers Cwpan Rugbi'r Byd 1999 wedi amlhau poblogrwydd y gêm yn arwyddocaol. Mae'r Ariannin wedi cwblhau nifer o fuddugoliaethau annisgwyl, yn arbennig yn Buenos Aires, ac yn gallu trechu timau Chwe Gwlad yn reolaidd. Cafodd yr Ariannin eu graddio yn bedwerydd gan y BRRh ar ôl buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Ffrainc yng ngêm cyntaf Cwpan Rygbi'r Byd 2007. Enillodd yr Ariannin eu grŵp heb golli gêm, a chyrraeddodd y tîm y rownd gynderfynol am y tro cyntaf, yn ennill 19–13 yn erbyn yr Alban yn y rownd gogynderfynol. Collasant 37–13 i Dde Affrica yn y rownd gynderfynol, ond enillodd y tîm gêm y trydydd safle, yn erbyn Ffrainc eto.

Dechreuodd y Pumas Cwpan Rygbi'r Byd 2011 gan golli 13–9 i Loegr, ar ôl arwain y gêm am fwy na 60 munud. Enillodd y tîm yn erbyn Rwmania 43–8. Y gêm nesaf, yn erbyn yr Alban, penderfynodd pa dîm wnaeth cyrraedd y rownd gogynderfynol. Enillodd yr Ariannin y gêm 13–12 ar ôl cais hwyr gan Lucas González Amorosino, Felipe Contepomi wnaeth trosi. Daeth yr Ariannin yn ail yn y grŵp drwy ennill 25–9 yn erbyn Georgia. Chwaraeodd yr Ariannin y Crysau Duon yn y rownd gogynderfynol; sgoriodd Julio Farias Cabello gais ar ôl hanner awr i arwain 7–6, ond goruchafodd y Crysau Duon y gêm, yn arwain i fuddugoliaeth 33–10 i Seland Newydd.

Ers 2012 mae'r Ariannin yn chwarae yn y Pencampwriaeth Rygbi, cystadleuaeth gydag Awstralia, De Affrica a Seland Newydd. Yn 2012 fe wnaeth y Pumas gystadlu yn y Pencampwriaeth heb ennill gêm, ond gorffennodd eu gêm yn erbyn De Affrica ym Mendoza yn gyfartal.

Carfan presennol[golygu | golygu cod]

Chwaraewr Safle Dyddiad Geni Clwb
Agustín Creevy Bachwr 15 Mawrth 1985 (28 oed) Montpellier
Eusebio Guiñazú Bachwr 15 Ionawr 1982 (31 oed) Caerfaddon
Bruno Postiglioni Bachwr 8 Ebrill 1987 (26 oed) La Plata
Marcos Ayerza Prop 12 Ionawr 1983 (30 oed) Caerlŷr
Maximiliano Bustos Prop 2 Ebrill 1986 (27 oed) Montpellier
Francisco Gómez Kodela Prop 3 Gorffennaf 1985 (27 oed) Biarritz
Nahuel Lobo Prop 27 Awst 1991 (21 oed) Montpellier
Manuel Carizza Clo 23 Awst 1984 (28 oed) Racing Métro
Julio Farías Cabello Clo 9 Medi 1978 (34 oed Cymry Llundain
Juan Cruz Guillemain Clo 21 Awst 1992 (20 oed) Stade Français
Tomas Vallejos Clo 16 Hydref 1984 (28 oed) Scarlets
Tomás de la Vega Blaenasgellwr 28 Medi 1990 (22 oed) Ciwba
Juan Manuel Leguizamón Blaenasgellwr 6 Mehefin 1983 (29 oed) Lyon
Tomás Leonardi Blaenasgellwr 1 Gorffennaf 1987 (25 oed) Southern Kings
Juan Martín Fernández Lobbe (c) Wythwr 19 Tachwedd 1981 (31 oed) Toulon
Leonardo Senatore Wythwr 13 Mai 1984 (28 oed) Caerwrangon
Tomás Cubelli Mewnwr 12 Mehefin 1989 (23 oed) Belgrano
Martín Landajo Mewnwr 14 Mehefin 1988 (24 oed) C.A.S.I.
Nicolás Vergallo Mewnwr 20 Ebrill 1983 (29 oed) Southern Kings
Juan Martín Hernández Maswr 7 Awst 1982 (30 oed) Racing Métro
Nicolás Sánchez Maswr 26 Hydref 1988 (24 oed) Bordeaux
Marcelo Bosch Canolwr 7 Ionawr 1984 (29 oed) Biarritz
Santiago Fernández Canolwr 28 Tachwedd 1985 (27 oed) Montpellier
Gonzalo Tiesi Canolwr 24 Ebrill 1985 (27 oed) Cymry Llundain
Gonzalo Camacho Asgellwr 28 Awst 1984 (28 oed) Caerwysg
Juan Imhoff Asgellwr 11 Mai 1988 (24 oed) Racing Métro
Manuel Montero Asgellwr 20 Tachwedd 1991 (21 oed) Pucará
Santiago Cordero Cefnwr 6 Rhagfyr 1993 (19 oed) Regatas Bella Vista
Joaquín Tuculet Cefnwr 1 Awst 1989 (23 oed) Grenoble
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.