John Tibbot

Oddi ar Wicipedia
John Tibbot
Ganwyd1757 Edit this on Wikidata
Bu farwMawrth 1820 Edit this on Wikidata
Llanbryn-mair Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethClociwr, oriadurwr Edit this on Wikidata
TadRichard Tibbott Edit this on Wikidata

Clociwr ac oriadurwr o Gymro oedd John Tibbot (tua 1757 – Mawrth 1820).[1]

Mae'n debyg ei fod yn fab i Richard Tibbot, Ty-croes, Pennarth, Llanfair Caereinion. Tua 1777 ymsefydlodd John yn y Drenewydd fel gwneuthurwr clociau ac oriorau.[1] Ar un adeg roedd Ezekiel Hughes, arweinydd yr ymfudwyr cyntaf o Lanbryn-mair i'r Unol Daleithiau, yn brentis i John Tibbot.[2] Ym 1810 lluniodd Tibbot gloc a honodd nad oedd colli mwy na dwy eiliad dros ddwy flynedd.[3]

Ym 1807, wedi tair degawd wrth ei grefft yn y Drenewydd, symudodd John i fferm Y Cawg yn Llanbryn-mair. Fe'i claddwyd ym mynwent y pentref ar 24 Mawrth 1820.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  John Tibbot (c. 1757 – 1820). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 24 Medi 2013.
  2. (Saesneg) Ezekiel Hughes (1766 - 1849). The Wales-Ohio Project. Adalwyd ar 24 Medi 2013.
  3. I. C. Peate, "John Tibbot, Clock and Watch Maker", Montgomeryshire Collections, xlviii, pt. 2 (Y Trallwng, 1944), t. 178. Dyfynnwyd gan E. P. Thompson, "Time, work-discipline, and industrial capitalism", Past and Present.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • "Tibbot, John, of Newtown". Clocks 17: t. 7. Ionawr 1995.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]