Joe McElderry

Oddi ar Wicipedia
Joe McElderry
Ganwyd16 Mehefin 1991 Edit this on Wikidata
South Shields Edit this on Wikidata
Label recordioSony Music Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Newcastle College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, model, cyfansoddwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Math o laiscountertenor Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://joemcelderryofficial.com/ Edit this on Wikidata

Canwr a model[1] Seisnig yw Joseph "Joe" McElderry (ganwyd 16 Mehefin 1991)[2] Enillodd y chweched gyfres o'r sioe ITV, The X Factor yn 2009.[3] Cyrhaeddodd ei sengl gyntaf, "The Climb", rif un yn siartiau'r DU ac yn siartiau Iwerddon.

Bywyd cynnar a phersonol[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn South Shields,[4] Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, unig blentyn[5] i Jim McElderry ac Eileen Joyce[6] yw McElderry. Gwahanodd y pâr pan oedd McElderry yn blentyn.[7] Magwyd McElderry mewn fflat bach ar Tyneside[6] gyda chymorth ei fam-gu Hilda Joyce a'i fodrybedd.

Aeth McElderry i Harton Technology College yn Lisle Road, South Shields, cyn iddo ymuno â South Tyneside College er mwyn astudio ar gyfer Lefelau Uwch, ac wedyn i Newcastle College er mwyn astudio celfyddydau perfformio.[8] Roedd e'n Falchder Perfformiwr Ifanc South Tyneside yn 2008. Mae e'n astudio am BTEC National Diploma mewn Celfyddydau Perfformio yn Newcastle College Performance Academy.[9] Chwaraeodd 'Danny Zuko' yn Grease yn Harton Technology College.[8]

Yng Ngorffennaf 2010, dywedodd McElderry ei fod yn hoyw, a diolchodd i'w deulu a'i gefnogwyr am eu cymorth.[10][11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Joe McElderry signs up as face of Next Models
  2. [1]
  3. Joe McElderry wins X Factor crown (en) , Newyddion BBC, 13 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 14 Rhagfyr 2009.
  4. "Births England and Wales 1984-2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-04. Cyrchwyd 2010-08-26.
  5. "I'm straight". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-12. Cyrchwyd 2010-08-26.
  6. 6.0 6.1 X Factor winner Joe McElderry: small boy, big voice, great future (en) , Daily Telegraph, 14 Rhagfyr 2009.
  7. Sara Nathan. X Factor: Robbie Williams to sing on final... despite wild-eyed first attempt (en) , Daily Mail, 9 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 15 Rhagfyr 2009.
  8. 8.0 8.1 Leah Strug. Support for X Factor Joe is top class (en) , Shields Gazette, 8 Hydref 2009. Cyrchwyd ar 17 Tachwedd 2009.
  9. Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol.
  10. A message from Joe (en) , joe-music.com, 30 Gorffennaf 2010.
  11. Moodie, Clemmie. Joe McElderry: I'm gay - X Factor winner comes out in Daily Mirror interview (en) , Daily Mirror, Trinity Mirror, 31 Gorffennaf 2010.