Jane Aaron
Jane Aaron | |
---|---|
Ganwyd | 26 Medi 1951 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Cyflogwr | |
Tad | Richard Ithamar Aaron |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Seisnig |
Mae Jane Rhiannon Aaron (ganwyd 26 Medi 1951) yn addysgwr Cymreig, ymchwilydd llenyddol ac awdur. Hyd at ei hymddeoliad ym Medi 2011, roedd hi'n Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg; yna daeth yn aelod cyswllt o'r Ganolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ym Mhrifysgol De Cymru[1] Mae Aaron yn adnabyddus am ei hymchwil i a chyhoeddiadau ar lenyddiaeth Gymraeg ac ar ysgrifeniadau menywod Cymru.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Jane Aaron yn Aberystwyth yn ferch i'r athronydd Richard Ithamar Aaron a'i wraig Annie Rhiannon Morgan. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, (1970-1973). Yna astudiodd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, lle enillodd PhD ym 1980.[3]
Yn 1993, fe'i penodwyd yn Uwch-ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Daeth yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg, Pontypridd, ym 1999 lle'r arhosodd tan ei hymddeoliad yn 2011.
Ers y 1990au cynnar mae Aaron wedi cyhoeddi nifer o draethodau a llyfrau ac wedi golygu gwaith ar gyfer gwasg Honno sy'n arbenigo mewn ysgrifennu gan fenywod Cymru. Ar gyfer Honno, ym 1999 bu'n golygu blodeugerdd o straeon byrion sy'n dwyn y teitl A View Across the Valley: Short Stories from Women in Wales 1850–1950. Ym 1988 cyhoeddodd Pur Fel y Dur: Y Gymraes yn Llen Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg gan ennill gwobr Ellis Griffith. Yn 2009 enillodd Wobr Roland Mathias am y gyfrol Nineteenth-century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (2007).
Derbyn i'r Orsedd
[golygu | golygu cod]Derbyniwyd Jane i'r Orsedd yn 2024 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 a gynhaliwyd ym Mhontypridd. Cafodd ei derbyn yn y Wisg Werdd.[4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Aaron, Jane (1991). A Double Singleness: Gender and the Writings of Charles and Mary Lamb. Clarendon Press. ISBN 978-0-19-812890-8.
- Aaron, Jane (1998). Pur Fel y Dur: Y Gymraes yn Llen Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. University of Wales Press. ISBN 978-0-70-8314814.
- Aaron, Jane (1999). A View Across the Valley: Short Stories by Women from Wales, C.1850-1950. Honno. ISBN 978-1-870206-35-8.
- Aaron, Jane (2010). Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2287-1.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jane Aaron Joins Centre[dolen farw] adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ World Cat Identities adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ Prabook Jane Rhiannon Aaron Archifwyd 2016-05-06 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ "Eisteddfod 2024: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd". BBC Cymru Fyw. 20 Mai 2024.