Coleg Somerville, Rhydychen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coleg Somerville, Prifysgol Rhydychen
Enw Llawn Coleg Somerville
Arwyddair Donec rursus impleat orbem
Enwyd ar ol Mary Somerville
Cyn enwau Neuadd Somerville
Sefydlwyd 1879
Chwaer-Goleg Coleg Girton
Prifathrawes Y Foneddiges Fiona Caldicott
Arlywydd y JCR Simon Bruegger
Arlywydd yrMCR Marta Zaoralova
Lleoliad Woodstock Road, Rhydychen
Is-raddedigion 396
Graddedigion 88
Gwefan Clwb Rhwyfo

Mae Coleg Somerville yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen, a bu'n un o'r colegau i ferched cyntaf i gael eu sefydlu yno.

Hanes[golygu]

Sefydlwyd Somerville (dan yr enw Neuadd Somerivlle) yn 1879, gyda'r nod o ddarparu rhyw fath o addysg uwch i ferched, gan na chaent fod yn aelodau o Brifysgol Rhydychen ar y pryd. Cymer y Coleg ei enw oddi wrth Mary Somerville, un o wyddonwyr benywiadd enwoca'r ddeunawfed ganrif. Benthycodd y Coleg arfbais ei theulu hefyd, a'r arwyddair 'Donec rursus impleat orbem'. Yn wahanol i Neuadd Lady Margaret a sefydlwyd yn yr un flwyddyn, mynnodd sefydlwyr y coleg na ddylai ei aelodau orfod pasio unrhyw brofion ar sail crefydd i gael ymuno â'r coleg.

Drwy ei hanes, bu'r Coleg ym mlaen y frwydr dros addysg i ferched. Yn 1894, Somerville oedd y cyntaf o'r 5 Neuadd i Ferched i fabwysiadu'r term Coleg, a Somerville oedd y cyntaf hefyd i adeiladu llyfrgell. Yn 1903 sefydlwyd y 'Mary Somerville Research Fellowship', y cynta i gynnig cyfle ymchwil i ferched.

Cydnabuwyd y Coleg yn aelod llawn o'r Brifysgol yn 1959. Yn 1992 cymerwyd y penderfyniad i ganiatau i ddynion fynychu'r coleg, gyda'r cyntaf yn cyrraedd yn 1994. Y Brifathrawes bresennol yw'r Foneddiges Fiona Caldicott

Cynfyfyrwyr[golygu]

Mae cynfyfyrwyr Somerville wedi gwneud cyfraniad mawr i statws merched mewn sawl maes. Ymysg ei gynfyfyrwyr enwocaf mae Margaret Thatcher a ddaeth yn brif weinidog benwyaidd cyntaf y Deyrnas Unedig yn 1979. I Somerville hefyd yr aeth Indira Gandhi a ddaliodd y swydd gymharol yn India.

Ymysg y gwyddonwyr a fynychodd y coleg mae Dorothy Hodgkin a enillodd Wobr Nobel am ei gwaith ar strwythur insulin, penicillin, a vitamin B12.

Mae Somerville hefyd yn unigryw o blith colegau Rhydychen a Chaergrawnt fel yr unig goleg a ellir ei ddisgrifrio o gael 'Ysgol o Nofelwyr'. Ymysg y llenorion a fynychodd y Coleg mae Dorothy L. Sayers, Iris Murdoch, Winifred Holtby a Vera Brittain


 
Colegau Prifysgol Rhydychen

OUCOAcolourCopyrightKaihsuTai.png

Balliol | Brasenose | Y Brifysgol | Corpus Christi | Eglwys Crist | Exeter | Y Drindod | Y Frenhines | Green | Harris Manchester | Hertford | Yr Holl Eneidiau | Yr Iesu | Kellogg | Keble | Linacre | Lincoln | Magdalen | Mansfield | Merton | Neuadd yr Arglwyddes Margaret | Neuadd St Edmwnd | Y Coleg Newydd | Nuffield | Oriel | Penfro | Regent's Park | St Anne | St Antony | Santes Catrin | St Cross | St Hilda | St Hugh | Sant Ioan | St Pedr | Somerville | Templeton | Wadham | Wolfson | Worcester

 
Neuaddau Prifysgol Rhydychen

Blackfriars | Greyfriars | Neuadd Campion | Neuadd St Benet | Neuadd Wycliffe | Tŷ San Steffan