Jacob Zuma

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jacob Zuma

Jacob Gedleyihlekisa Zuma (ganed 12 Ebrill 1942) yw Arlywydd presennol De Affrica. Ef yw'r pedwerydd Arlywydd yn y cyfnod wedi diwedd Apartheid.

Ganed Zuma yn KwaZulu-Natal, yn aelod o lwyth y Zulu. Ymunodd a'r ANC yn 1959, a daeth yn aelod o'r adain arfog, Umkhonto we Sizwe. Yn 1963 cymerwyd ef i'r ddalfa, a threuliodd ddeng mlynedd yn y carchar ar Ynys Robben.

Rhwng 1999 a 2005 bu'n Ddirpwy Arlywydd De Affrica dan Thabo Mbeki, ac ers 18 Rhagfyr 2007 mae wedi bod yn gadeirydd yr ANC. Wedi i'r ANC ennill etholiad Ebrill 2009, dewiswyd ef yn Arlywydd gan y Senedd ar 6 Mai 2009, a dechreuodd ar y swydd ar 9 Mai.

Daethpwyd ag achos llys am lygredd yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau heb ddod i gasgliad. Oherwydd hyn a hanesion am anturiaethau rhywiol, beirniadwyd Zuma yn llym gan yr Archesgob Desmond Tutu.

Rhagflaenydd :
Kgalema Motlanthe
Arlywydd De Affrica
Jacob Zuma

2009 -
Olynydd :