JFK (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Oliver Stone |
| Cynhyrchydd | A. Kitman Ho Oliver Stone |
| Ysgrifennwr | Sgript: Oliver Stone Zachary Sklar Llyfr (On the Trail of the Assassins): Jim Garrison Llyfr (Crossfire: The Plot That Killed Kennedy): Jim Marrs |
| Serennu | Kevin Costner Tommy Lee Jones Gary Oldman Joe Pesci Sissy Spacek Jack Lemmon Donald Sutherland |
| Cwmni Cynhyrchu | Warner Bros. |
| Dyddiad rhyddhau | 20 Rhagfyr, 1991 |
| Amser rhedeg | 189 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae JFK yn ffilm Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Oliver Stone ac a ryddhawyd ar yr 20fed o Ragfyr, 1991. Edrycha'r ffilm ar hanes llofruddiaeth yr Arlywydd John F. Kennedy a'r modd honedig y celwyd y gwirionedd yn dilyn ei farwolaeth. Dangosir hyn yn y ffilm trwy lygaid y cyn-erlynydd sirol o New Orleans, Jim Garrison, sy'n cael ei chwarae gan Kevin Costner.
Dewisiodd nifer o'r actorion beidio a derbyn cyflog am actio'n y ffilm hon oherwydd natur y ffilm.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Riordan 1996, tud. 369.
