Oliver Stone
Mae William Oliver Stone (ganed 15 Medi, 1946) yn gyfarwyddwr a sgriptiwr ffilmiau. Daeth Stone yn enwog fel cyfarwyddwr gyda chyfres o ffilmiau am Ryfel Fietnam, rhyfel yr oedd ef ei hun wedi cymryd rhan ynddo fel milwr. Mae Stone yn parhau i weithio ar faterion gwleidyddol a diwylliannol cyfoes, ac yn aml ystyrir ei weithiau fel rhai dadleuol. Enillodd dair o Wobrau'r Academi, y cyntaf am ei sgript ar gyfer Midnight Express (1978). Enillodd Wobrau'r Academi hefyd am gyfarwyddo Platoon (1986) a Born on the Fourth of July (1989), gyda'r ddwy ffilm yn sôn am Ryfel Fietnam.
Nodwedd amlwg o'r arddull gyfarwyddo yw ei ddefnydd o gamerau a fformatau ffilm gwahanol, o VHS o ffilm 70mm. Weithiau, defnyddia nifer o fformatau gwahanol yn yr un olygfa, fel a welwyd yn JFK (1991) a Natural Born Killers (1994). Yn aml, beirniedir ffilmiau Stone am hyrwyddo damcaniaethau cynllwynion a diffyg cywirdeb hanesyddol. Yn ogystal a hyn, beirniadwyd y ffilm "Natural Born Killers" am glodfori trais; fodd bynnag, dadleua Stone fod y ffilm yn dychanu diddordeb y cyfryngau mewn darlunio trais.
Ffilmograffiaeth [golygu]
Fel cyfarwyddwr [golygu]
|
|
Gweithiau eraill [golygu]
- Midnight Express (sgriptiwr) (1978)
- Conan the Barbarian (sgriptiwr) (1982)
- Scarface (sgriptiwr) (1983)
- Year of the Dragon (sgriptiwr) (1985)
- 8 Million Ways to Die (sgriptiwr) (1986)
- Dave (cameo) (1993)
- Evita (sgriptiwr) (1996)
- Escobar (cynhyrchydd) (2009) (cyhoeddwyd)