J. Aelwyn Roberts

Oddi ar Wicipedia
J. Aelwyn Roberts
GanwydJoseph Aelwyn Roberts Edit this on Wikidata
1918 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 2018 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethFicer, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur, darlledwr a chlerigwr oedd y Parchedig Joseph Aelwyn Roberts (191811 Ionawr 2018) a adwaenid fel arfer yn J. Aelwyn Roberts. Roedd yn gyn ficer plwyf Llandegai ger Bangor.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau am grefydd a'r goruwchnaturiol. Yn y 1940au, roedd yn un o leisiau cyfres radio wreiddiol Wil Cwac Cwac.[1]

Yn 1999 darlledwyd cyfres o ddramau dogfen ar S4C dan y teitl O'r Ochr Draw am ei hanes a phrofiadau o ysbrydion.

Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 99 oed.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Margaret Yvonne Roberts (Grounds oedd ei chyfenw cyn priodi) a fu farw ar 21 Awst 2017. Roedd ganddynt chwech o blant.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Yr Anhygoel (Holy Ghostbuster yn Saesneg) (Gwasg Gwynedd, 1991)
    • Yn Saesneg - Holy ghostbuster: a parson's encounter with the paranormal (Hale, 1990).
  • Andalusia a Phethau Bach Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 1993)
  • Privies of Wales: Tai Bach Cymru (Cyhoeddiadau Tegai, 2000)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Parchedig J Aelwyn Roberts wedi marw , BBC Cymru Fyw, 13 Ionawr 2018.
  2. (Saesneg) (REV) JOSEPH AELWYN ROBERTS : Obituary. Daily Post (16 Ionawr 2018). Adalwyd ar 17 Ionawr 2018.
  3. (Saesneg) ROBERTS : Obituary. Daily Post (24 Awst 2017). Adalwyd ar 13 Ionawr 2018.