Irish National Invincibles

Oddi ar Wicipedia
Irish National Invincibles
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata

Roedd yr Irish National Invincibles a adnabyddir fel arfer fel yr Invincibles (Gwyddeleg: na hInvincibles), yn grŵp hollt radical o'r Irish Republican Brotherhood (Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol).[1] Roedd y grŵp terfysgol yn weithgar yn Nulyn rhwng diwedd 1881 a 1883. Eu nod datganedig oedd gyrru pob “teyrn” allan o Iwerddon a thargedu'r rhai a oedd, yn eu tyb nhw, yn gweithredu polisïau Seisnig yn Iwerddon.[2]

Llofruddiaethau Parc Ffenics[golygu | golygu cod]

Thomas Henry Burke a lofryddwyd gan yr Invincibles
Patrick O'Donnell un o'r Irish National Invincibles a ddienyddwyd yn 1883

Ar ôl nifer o ymosodiadau aflwyddiannus, gan gynnwys ar Is-ysgrifennydd Francis Cowper, 7fed Iarll Cowper, ac ar gyn Brif Ysgrifennydd Iwerddon, William Edward Forster, bwriad y grŵp oedd lladd yr Is-ysgrifennydd Gwladol parhaol, Thomas Henry Burke. Roedd y Prif Ysgrifennydd oedd newydd ei sefydlu, yr Arglwydd Frederick Cavendish yn cerdded trwy Barc Phoenix gyda Burke o Gastell Dulyn ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd pan ddigwyddodd yr ymgais i lofruddio am 5:30 p.m. dydd Sadwrn, 6 Mai 1882. Yn gyntaf, lladdwyd Burke gan drywanu lluosog â sgalpelau. Roedd yr Arglwydd Cavendish, na chafodd ei dargedu'n wreiddiol gan y llofruddion, eisiau helpu Burke ac felly cafodd ei ladd hefyd. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Llofruddiaethau Parc Ffenics.

Y drwgweithredwyr oedd Joe Brady, a drywanodd Burke, a Tim Kelly, a laddodd Cavendish. Galwodd y wasg Brydeinig ar i'r troseddwyr gael eu dal a'u cosbi'n gyflym.

Ar ôl ymddangos na ddaethpwyd o hyd i unrhyw olion o'r drwgweithredwyr am amser hir, arestiwyd 17 o bobl a ddrwgdybir ar 13 Ionawr 1883 ar ôl sawl mis o gasglu adroddiadau hysbysydd. Trwy osod un a ddrwgdybir yn erbyn un arall, cafodd yr Uwcharolygydd John Mallon o G Division Heddlu Metropolitan Dulyn rai i ddatgelu'r hyn roedden nhw'n ei wybod.[3] Cytunodd arweinydd yr Invincibles, James Carey, yn ogystal â Michael Kavanagh a Joe Hanlon i dystio yn erbyn y lleill ar 13 Chwefror 1883, tystiolaethasant fel tystion allweddol yn y llys o dan y Barnwr William O'Brien. Dedfrydwyd Joe Brady, Michael Fagan, Thomas Caffrey, Dan Curley a Tim Kelly i farwolaeth (yr olaf yn unig ar ôl trydydd achos llys anarferol oherwydd ei oedran ifanc yn 19 oed ac ymddangosiad plentynnaidd) a chan y dienyddiwr William Marwood yng Ngharchar Kilmainham yn Nulyn crogwyd hwy rhwng 14 Mai a 4 Mehefin 1883. Dedfrydwyd eraill i ddedfrydau hir o garchar, yn eu plith James Fitzharris (o'r enw Skin-the-Goat), gyrrwr y cerbyd dianc, a Patrick Delaney, llofrudd aflwyddiannus y Barnwr Lawson.

Fodd bynnag, ni chafodd unrhyw aelod o'r bwrdd sefydlu ei ddwyn o flaen ei well gan lywodraeth Prydain. Croesawyd John Walsh, Patrick Egan, John Sheridan, Frank Byrne a Patrick Tynan, os nad yn seremonïol, i’r Unol Daleithiau, lle’r oedd gwrthwynebiad i’r llofruddiaethau yn llai difrifol.

Wedi'r gyflafan[golygu | golygu cod]

Saethwyd Carey ar fwrdd llong y Melrose Castle oddi ar Cape Town, De Affrica, ar 29 Gorffennaf 1883 gan aelod yr Invincibles, Patrick O'Donnell o Swydd Donegal, am iddo argyhuddo ei gyn-gymrodyr. Arestiwyd O'Donnell a'i gludo yn ôl i Lundain, ac i lys yr Old Bailey, lle y'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth. Crogwyd ef yn Newgate ar 17 Rhagfyr 1883.[4]

Condemniad Parnell[golygu | golygu cod]

Condemniodd y cenedlaetholwr Gwyddelig cymhedrol, Charles Stewart Parnell, y llofruddiaethau mewn araith ym 1882. Cynyddodd hyn ei boblogrwydd uchel eisoes yn Lloegr ac Iwerddon fel diwygiwr mwy cymedrol nad oedd yn cymeradwyo dulliau o'r fath.[5]

Fodd bynnag, methodd polisi Parnell o gynghrair â Phlaid Ryddfrydol y Prif Weindiog Gladstone ym 1886 i alluogi Ymreolaeth i Iwerddon, yn bennaf oherwydd llofruddiaethau Parc Phoenix. Yr oedd gweinidog Gladstone, Arglwydd Hartington, yn frawd hŷn i'r Arglwydd Frederick Cavendish a lofruddiwyd. Yn drist ac yn flin ar ei farwolaeth annhymig, torrodd gyda Gladstone dros fater Home Rule. Arweiniodd hyn at gwymp llywodraeth Gladstone. Arweiniodd yr Arglwydd Hartington Gymdeithas yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol (Liberal Unionist Association), a gysylltodd ei hun â llywodraeth Geidwadol yr Arglwydd Salisbury wedi hynny. Yn yr etholiad cyffredinol dilynol yn 1886 enillasant yn glir. Gohiriodd hyn gyflwyniad Ymreolaeth am 28 mlynedd tan drydydd Mesur Ymreolaeth Iwerddon yn 1914, na chafodd ei weithredu ychwaith oherwydd cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a, gydag hynny, rhoi rheswm ddeallusol dros Wrthryfel y Pasg yn 1916.

Ym mis Mawrth 1887, cyhoeddodd y Times lythyrau honedig oddi wrth Parnell yn mynegi cydymdeimlad â'r Invincibles a bod ei gondemniad cyhoeddus o'u gweithredoedd yn annidwyll. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg mai ffugiadau gan y newyddiadurwr Richard Pigott, yr hyn a elwir yn Ffugiadau Pigott, oedd y llythyrau. Cafodd Parnell ei adsefydlu gan Gomisiwn Parnell 1888–89. Cyflawnodd Pigott hunanladdiad yn fuan ar ôl i'w ffugiadau ddod yn hysbys.

Yr Invincibles mewn Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ym Mhennod Saith o Ulysses James Joyce, mae Stephen Dedalus a chymeriadau eraill yn trafod y llofruddiaethau yn swyddfeydd papur newydd y Freeman. Ym Mhennod 16 mae Bloom a Dedalus yn aros mewn lloches cabman sy'n cael ei redeg gan ddyn y credant ei fod yn James 'Skin-the-Goat' Fitzharris.

Sonnir am yr Invincibles a Carey yn y gân werin "Monto (Take Her Up To Monto)". Ceir fersiwn o'r gân gan grŵp gwerin Wyddelig, The Dubliners.[6]

When Carey [James Carey (Ffeniad)] told on Skin-the-goat [James Fitzharris],
O'Donnell [Patrick O'Donnell (un o'r Invincibles)] caught him on the boat
He wished he'd never been afloat, the filthy skite.
Twasn't very sensible
To tell on the Invincibles
They stood up for their principles, day and night by going up to Monto Monto......"

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Julie Kavanagh: The Irish Assassins: Conspiracy, Revenge and the Phoenix Park Murders That Stunned Victorian England. Black Cat, New York 2021, ISBN 978-0-8021-4936-7.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. McCracken, J. L. (2001). The Fate of an Infamous Informer. Dublin: History Ireland. tt. all.
  2. "HISTORY: Remembering the Invincibles". Dublin People. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-02. Cyrchwyd 2024-02-20.
  3. Moloney, Senan (2006). The Phoenix Murders: Conspiracy, Betrayal and Retribution. Dublin: Mercier Press. tt. 146 et passim. ISBN 1-85635-511-X.
  4. Moloney, Senan (2006). The Phoenix Murders: Conspiracy, Betrayal and Retribution. Dublin: Mercier Press. tt. 250 et passim. ISBN 1-85635-511-X.
  5. Lyons (1977), p. 209–211
  6. "Monto, The Dubliners.With photos of the Monto area". Sianel Youtube. 16 Ebrill 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Baner Republic of IrelandEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.