Inis Toirc

Oddi ar Wicipedia
Inis Toirc
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth70 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Mayo Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd6.3 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.7014°N 10.1083°W Edit this on Wikidata
Hyd4.3 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys yw Inis Toirc yng Ngwyddelig, (sy'n golygu Ynys Baedd Gwyllt) oddi ar arfordir Contae Mhaigh Eo/Sir Mayo, yn Eire/ Gweriniaeth Iwerddon.[1]

Ynysoedd oddi ar Sir Mayo

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Gorweddai'r ynys tua 15 kilometre (9 mi) oddi ar yr arfordir; mae ei phwynt uchaf yn cyrraedd 189.3 metre (621.1 ft) uwch lefel y môr.[2] Rhwng Inis Toirc ac Ynys Clare mae Ynys Caher. Mae ganddo boblogaeth barhaol o 58 o bobl.[3] Mae dau brif anheddiad, y ddau ar ben dwyreiniol mwy cysgodol yr ynys, sef Ballyheer a Garranty. Mae Bellavaun a Craggy yn aneddiadau segur. Adeiladodd y Prydeinwyr dwr Martello ar yr arfordir gorllewinol yn ystod Rhyfeloedd Napoleon . Inis Toirc sydd â'r gyfradd rhoi uchaf y pen tuag at yr RNLI yn Iwerddon gyfan. 

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae pobl wedi byw ar Inis Toirc ers 4,000 BCE ac mae wedi bod yn breswylfa barhaol ers o leiaf 1700.[4] Mae rhai o'r trigolion mwy diweddar yn ddisgynyddion o faciwîs o Inis Airc i'r de-orllewin.  Mae clwb cymdeithasol Mountain Comin wedi'i leoli ar y bryn sy'n gwahanu'r ddwy anheddiad.

Hanes diweddar[golygu | golygu cod]

Yn 1993 agorwyd canolfan Gymunedol Inis Toirc, mae'r ganolfan gymunedol hon yn dyblu fel llyfrgell a thafarn .

Ym mis Mehefin 2014 comisiynnodd yr ESB (bwrdd cyflenwi trydan) dri generadur disel Broadcrown BCP 110-50 100 kVA i gyflenwi trydan i'r ynys.[5] Mae'r ESB wedi gweithredu gorsaf bŵer disel ar yr ynys ers yr 1980au.[6]

Enillodd Inis Toirc sylw rhyngwladol yn 2016 ar ôl i nifer o wefannau honni y byddai'r ynys yn croesawu unrhyw "ffoaduriaid" Americanaidd sy'n ffoi rhag arlywyddiaeth bosibl Donald Trump.[7][8] Defnyddiwyd yr honiadau hyn fel un enghraifft o'r math o " newyddion ffug " a gododd yn ystod ymgyrch etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2016.[9] Ym mis Tachwedd 2016, ni nodwyd unrhyw newidiadau i fewnfudo i'r ynys. 

Mae ysgol gynradd i'r ynys ac roedd iddi ond 3 disgybl yn 2011, a chredir mai hon yw'r ysgol gynradd leiaf yn Iwerddon.[10]

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Mae'r tabl isod yn adrodd ar ddata poblogaeth Inis Toirc a gymerwyd o Discover the Islands of Ireland (Alex Ritsema, Collins Press, 1999) a Chyfrifiad Iwerddon.

Y boblogaeth hanesyddol
BlwyddynPobl.±%
1841577—    
1851174−69.8%
1861110−36.8%
1871112+1.8%
1881116+3.6%
1891135+16.4%
1901135+0.0%
1911132−2.2%
1926101−23.5%
1936107+5.9%
1946125+16.8%
1951123−1.6%
1956110−10.6%
1961108−1.8%
196692−14.8%
197183−9.8%
197985+2.4%
198176−10.6%
198690+18.4%
199178−13.3%
199683+6.4%
200272−13.3%
200658−19.4%
201153−8.6%
201651−3.8%

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]

Cyn 1997 nid oedd gwasanaeth fferi wedi'i drefnu ac roedd pobl yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ynysoedd gan ddefnyddio cychod pysgota lleol. Ers hynny mae gwasanaeth fferi yn gweithredu o Gei Roonagh, Louisburgh, Sir Mayo.[11] Adeiladwyd y pier yn ystod yr 1980au gan lywodraeth Iwerddon, tua'r adeg hon roedd y ffyrdd ar yr ynys wedi'u palmantu.[12]

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Ynys Clare
  • Ynys Caher
  • Inishdalla
  • Inishbofin, Sir Galway
  • Rhestr o ynysoedd Iwerddon

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Weithiau Inisturk, fel Google Maps
  2. "Inisturk". MountainViews. Ordnance Survey Ireland. Cyrchwyd 23 Chwefror 2015.
  3. "No Christmas medical cover on island of Inishturk". breakingnews.ie. 24 Rhagfyr 2014.
  4. "Mayo Walks - Inishturk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-17. Cyrchwyd 2021-07-09.
  5. BC Inishturk case study
  6. "New hope for Inishturk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-12. Cyrchwyd 2021-07-09.
  7. Huffington Post - Looking to escape Donald Trump
  8. Remote Irish island seeks American fleeing Donald Trump presidency
  9. "Fake news is big business - and may have handed Trump the election" (yn Saesneg). The Business Post. 20 Tachwedd 2016.
  10. Three-pupil school urges families to consider move to 'idyllic' island
  11. "islander committed to her community". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-27. Cyrchwyd 2021-07-09.
  12. Winter Inishturk

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]