Hywel David Lewis
Roedd Hywel David Lewis (21 Mai 1910 – 6 Ebrill 1992) yn ddiwinydd ac athronydd Cymraeg.
Bywyd [golygu]
Cafodd Lewis ei eni yn Llandudno, Cymru a'i addysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a chael gradd dosbarth cyntaf mewn athroniaeth yn 1932, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen cafodd radd ac ôl-radd B. Lit yn 1935. Bu wedyn yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mangor, gan ddod yn athro yn 1947. Yn 1955, cafodd ei benodi'n Athro Hanes ac Athroniaeth Crefydd yn Prifysgol Llundain. Ymddeolodd yn 1977.
Bu'n sefydlydd a golygodd y cylchgrawn Religious Studies, o 1964 hyd 1979. Golygodd hefyd Llyfrgell Athroniaeth Muirhead o 1947 hyd 1978. Gwasanaethodd hefyd fel llywydd yr Aristotelian Society o 1962 hyd 1963 Bu yn gadeirydd cyngor y Sefydliad Brenhinol Athroniaeth o 1965 hyd 1968.
Bu farw ar 6 Ebrill 1992 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Sant Tudno ar Ben-y-Gogarth.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Helm, Paul (2004). Lewis, Hywel David (1910-1992). Oxford Dictionary of Biography. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 2008/10/05.