Hiclys y calch

Oddi ar Wicipedia
Hiclys y calch
Lophozia perssonii
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Lophozia
Rhywogaeth: L. perssonii
Enw deuenwol
Lophozia perssonii

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys y calch (enw gwyddonol: Lophozia perssonii; enw Saesneg: chalk notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Fel yr awgryma'r enw, mae'n hoff iawn o galchfaen yn nwyrain Lloegr ond nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, yr Alban nac Iwerddon.

Mae'n blanhigyn gwyrdd golau bach (egin 0.5-1.3 mm o led) gyda dail deulabed gyda pheli o gemmae brown tywyll ar ran ucha'r dail. Mae'r dail yn tyfu hyd at oddeutu 0.75 mm o led a hyd. Mae hen chwareli a hen byllau sialc yn cael eu ffafrio'n arbennig gan Hiclys y calch. Mae'r mwyafrif o gynefinoedd yn gymharol agored sy'n sychu yn yr haf.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Hiclys y calch gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.