Hiclys Joergensen

Oddi ar Wicipedia
Hiclys Joergensen
Anastrophyllum joergensenii
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Anastrophyllum
Rhywogaeth: A. joergensenii
Enw deuenwol
Anastrophyllum joergensenii

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys Joergensen (enw gwyddonol: Anastrophyllum joergensenii; enw Saesneg: Joergensen's Notchwort 1). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Mae'r Hiclys Joergensen a'r Hiclys alpaidd yn edrych yn hynod o debyg i'w gilydd. Mae gan y ddau: ddail ceugrwm, sy'n troi ar i fyny ychydig, maen nhw'n sgleiniog, yn gochddu tywyll ac yn tyfu mewn sypiau rhydd. Yn wir, hyd at 2005 credwyd mai un rhywogaeth oeddent, ond erbyn hyn gwyddys mai A. alpinum yw'r rhywogaeth fwy cyffredin, mwy (gydag egin rhwng 1 a 2 mm o led), a bod A. joergensenii yn blanhigyn ychydig bach yn llai (gydag egin hyd at 1 mm o led). Er fod y lled yn wahanol mae'r goesynnau tua'r un faint: tua 5 i 10 cm, felly mae Hiclys joergensenii yn amlwg yn fwy main.[1]

Cynefin[golygu | golygu cod]

Ei gynefin yw tir heb ei ddraenio h.y. gwlyptir fel rhostir neu fawnogydd, ond weithiau, fe'i ceir ar lechweddau creigiog. Nid yw mor brin a'r Hiclys alpaidd, yn enwedig yn y Cairngorms a gorllewin yr Alban.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Hiclys Joergensen gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 2 Mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.