Henry Lloyd

Oddi ar Wicipedia
Henry Lloyd
Ganwyd1720 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mehefin 1783 Edit this on Wikidata
Den Haag Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethawdur, person milwrol, economegydd Edit this on Wikidata

Milwr o Gymro oedd Henry Humphrey Evans Lloyd (tua 17181783) sy'n nodedig am ei ysgrifeniadau ar faterion milwrol.

Ganwyd ar fferm Cwm Bychan ym mhlwyf Llanbedr, Sir Feirionnydd, yn fab i glerigwr. Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Nid oedd yn medru fforddio comisiwn yn y Fyddin Brydeinig, felly aeth i Ffrainc yn 1744 gan obeithio cael comisiwn ym myddin y wlad honno. Methodd, a daeth yn frawd lleyg yn urdd yr Iesuwyr a bu'n rhoi addysg mewn pynciau milwrol i swyddogion y Frigâd Wyddelig.[1]

Brwydrodd ar ochr y Ffrancod yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, a bu ym Mrwydr Fontenoy yn 1745. Cymerodd ran yng ngwrthryfel y Jacobitiaid yn 1745, yn gwasnaethu fel swyddog cudd i gadw mewn cyswllt â Chymry yr oedd iddynt gydymdeimlad ag achos y Stiwartiaid. Dywed iddo gael ei gymryd i'r ddalfa yn 1746. Cafodd ei anfon i Loegr gan y Ffrancod i baratoi adroddiad ar bosibilrwydd glanio ar arfordir deheuol Prydain. Bu'n gwasanaethu hefyd ym myddinoedd Prwsia, Awstria, a Rwsia, a chyrhaeddodd reng uwchfrigadydd.[1]

Bu farw yn yr Hâg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Patrick J. Speelman, Henry Lloyd and the Military Enlightenment of Eighteenth-Century Europe, Contributions in Military Studies, no. 221 (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2002).