Henry Fitz Roy
Oddi ar Wicipedia
Mab gordderch i Harri I, brenin Lloegr a Nest ferch Rhys ap Tewdwr oedd Henry FitzRoy, hefyd Henry FitzHenry, (1103 – 1157).
Lladdwyd ef yn ystod ymgyrch Harri II yn erbyn Owain Gwynedd yn 1157. Roedd Henry yn un o arweinwyr llynges Seisnig a ymosododd ar Ynys Môn tra'r oedd prif fyddin y brenin yn ymosod ar hyd arfordir gogledd Cymru. Glaniodd y llynges ym Môn, ond gorchfygwyd hwy gan y Cymry lleol, gyda Henry yn un o'r lladdedigion.