Llanfair Mathafarn Eithaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Plwyf a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Môn yw Llanfair Mathafarn Eithaf. Gorwedd ar yr arfordir rhwng Moelfre i'r gogledd, sydd yn y plwyf, a Benllech i'r de.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy. Daw'r enw o'r dref ganoloesol Mathafarn Eithaf (ystyr mathafarn yw 'maes y dafarn').[1] Ceir clwstwr o gytiau hynafol Bwlch a Phant y Saer gerllaw.

Ganed y bardd Goronwy Owen yn Y Rhos-fawr (ardal Bryn-teg heddiw) yn y plwyf ar Ddydd Calan 1723.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972).

Gweler hefyd[golygu]

CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato