Hawystl

Oddi ar Wicipedia
Hawystl
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Gofal: Erthygl am santes Gymreig, a merch Brychan yw hon. Am y sant gwrywaidd o Gernyw, gweler: Austell.

Santes oedd Hawystl neu Tangwystl (fl. C5 - dechrau C6), a oedd yn ferch i Brychan, sefydlydd teyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) Gelwid hi weithiau wrth yr is-nam "gloff" Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched yn ôl y "Cognatio de Brychan" o'r 10g (ffigwr a geir yn aml mewn llên gwerin, e.e. meibion Llywarch Hen) yn ogystal â rhai meibion. Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y Trioedd fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd Caw a Chunedda).

Sefydlodd Ystrad Tanglws ym Morgannwg. Bu unwaith eglwys yn dwyn ei henw, sef Eglwys Llanawstl, Machen, Gwent, sydd bellach wed'i dynnu i lawr.[1] ac efallai hi rhoddod ei henw i Llangwestyl a daeth yn enwog yn yr Oesoedd Canol fel Abaty Glyn y Groes. Priododd Tydanwedd ap Amlawdd Wledig. Bu yn fam i Marchell o'r Eglwys Wen a nifer o saint eraill a chysylltir â Bangor-is-y-Coed a Dyffryn Clwyd

Fel sant, dydd ei gŵyl yw 28 Mehefin.[2]

Mae'n ymddangos fel santes yn 'Caer Hawystl ac fel merch i Frychan ym Mheniarth MS.127; tud.52. Copiwyd y wybodaeth yma i lawysgrifau eraill, a dyma achos ychydig rhagor o ddryswch amdani. Yn y llawysgrif hwn (Peniarth 127) mae Hawystl yn cymryd lle Tudwystl (gweler: Plant Brychan §3x in EWGT tud.83).[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. W.J.Rees, Lives of the Cambro-British Saints, tud.607; LBS III.252).
  2. The Life of Saint Brychan: King of Brycheiniog and Family; tud. 69. adalwyd 28 Mehefin.
  3. A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000; adalwyd 28 Mehefin.