Hanoi

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Banc yn Hanoi

Hanoi (Fietnameg: Hà Nội) yw prifddinas Fiet Nam. Roedd y boblogaeth yn 3,398,889 yn 2007.

Sefydlwyd Caer Co Loa yma tua 200 CC. Pan oedd Fiet Nam ym meddiant China, adnabyddid Hanoi fel Tống Bình ac yna Long Đỗ. Yn 866, gwnaed yr anheddfa yn gaer dan yr enw Đại La. Yn 1010, symudodd Lý Thái Tổ, rheolwr cyntaf Brenhinllin Ly, brifddinas Đại Việt fel y gelwid y wlad yr adeg honno, i Đại La, a'i hail-enwi yn Thăng Long ("Draig yn esgyn").

O 1010 hyd 1802, heblaw am ambell gyfnod, Hanoi oedd canolfan wleidyddol y Fiet Nam annibynnol. Yng nghyfnod Brenhinllin Nguyen, daeth dinas Huế yn bwysicach na Hanoi, ond daeth yn brifddinas eto pan ddaeth y wlad yn rhan o Ymerodraeth Ffrainc. O 1954 hyd 1976, roedd yn bridffinas Gogledd Fiet Nam, yna ar derfyn Rhyfel Fiet Nam daeth yn brifddinas Fiet Nam unedig.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fiet Nam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol