Gwin poeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwin Poeth

Diod Nadoligaidd ydy Gwin Poeth (Saesneg: Mulled Wine). Ceir nifer o amrywiaethau ar y ddiod trwy'r byd i gyd, ond fel arfer defnyddir gwin coch i wneud y ddiod gyda chyfuniad o wahanol berlysiau. Mae'n debyg iawn i feddyglyn.

Cynnwys

Mewn gwledydd eraill [golygu]

Glühwein [golygu]

Mae Glühwein yn boblogaidd mewn gwledydd Almaeneg eu hiaith ac yn ardal Alsace, Ffrainc. Hon yw'r ddiod draddodiadol a yfir yn ystod y Weihnachtsmärkten (Cymraeg: Marchnadoedd adeg y Nadolig). Fel arfer, defnyddir gwin coch i'w baratoi, ac fe'i cynhesir ynghŷd â chanel/sinamon, codenni fanila, sitrws, a siwgr.

Math debyg iawn o win poeth sy'n boblogaidd yn y Weriniaeth Tsiec ydy svařené víno, sef 'gwin wedi'i ferwi.'

Yng Ngwlad Pwyl, yfir grzane wino ("gwin wedi'i gynhesu") sydd yn debyg iawn i'r ddiod Tsiec.

Yn Rwmania, gelwir gwin poeth yn vin fiert (eto, "gwin wedi'i ferwi"), ond gellir defnyddio naill ai gwin coch neu wyn. Weithiau fe ddefnyddir ffrwyth y pupur du i wneud gwin poeth yn Rwmania.

Yn yr Eidal, mae gwin poeth yn nodweddiadol o ardaloedd gogleddol y wlad ac fe'i gelwir yn vin brûlé.

Rysáit gwin poeth [golygu]

Ceir cryn dipyn i ryseitiau sy'n sôn am sut mae gwneud gwin poeth, ond fe ddaw'r rysáit isod, o'r enw Gwin Poeth Sbeislyd, o raglen Wedi 3 a 7.[1]

  • 700ml dŵr
  • 110g siwgr brown
  • 1 botel gwin coch
  • 1 oren
  • 1 lemwn
  • 1 ddeilen lawryf
  • 6 chardamom wedi'i malu
  • 6 chlof
  • 1 seren anis
  • 1 ffon canel


1. Rhowch y dŵr a'r siwgr mewn sosban fawr a thoddi'r siwgr dros wres cymhedrol. Clymwch y cardamom, clofs, seren anis, a'r llawryf mewn bag mwslin ac ychwanegu i'r seidr gyda'r ffon canel a gad iddi fwydo am 10 munud.

2. Tynnwch y croen oddi ar y ffrwythau gan osgoi'r gwyn ac ychwanegu i'r dŵr. Arllwyswch y gwin a gad iddo dwymo yn raddol, heb ferwi, am tua 40 munud.

3. Torrwch y ffrwythau yn ddarnau ac ychwanegu i'r gwin cyn ei weini, gyda 150ml o fodca neu frandi os dymunwch.

Gweler hefyd [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. (Cymraeg) Nerys (22 Tachwedd 2009). Wedi 3 a 7 :: Ryseitiau - Archif :: Gwin Poeth Sbeislyd. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2010.