Wedi 7
| Wedi 7 | |
|---|---|
Logo Wedi 7 |
|
| Genre | Rhaglen gylchgrawn |
| Gwlad/gwladwriaeth | |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | c.30 munud |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Cysylltiadau allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
Rhaglen gylchgrawn ar y sianel Gymraeg S4C yw Wedi 7. Cyn i'r amser darlledu gael ei newid yn 2003, darlledwyd hi o dan yr enw Wedi 6. Enw'r rhaglen flaenorol yn yr un slot oedd Heno. Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni Tinopolis.
Fe ddarlledwyd y rhifyn olaf ar 28 o Fawrth, 2012 wrth i S4C ail-drefnu'r amserlen, yn dilyn toriadau enbyd i gyllid y sianel. Ar y 1af o Fawrth fe lansiwyd rhaglen newydd yn yr un slot am 7 o'r gloch a fe ddychwelyd i'r enw gwreiddiol Heno.
Cynnwys y Rhaglen [golygu]
Angharad Mair, yw prif gyflwynydd a golygydd y rhaglen, gyda Branwen Gwyn, Heledd Cynwal a John Hardy yn cyflwyno o bryd i'w gilydd. Mae'r rhaglen hanner awr yn cynnwys straeon ysgafn o Gymru gyda phwyslais ar hamdden, adloniant, diwylliant a digwyddiadau led led Cymru a thu hwnt. Mae'r rhaglen yn rhoi sylw hefyd i Gymry sydd wedi cael llwyddiant y tu allan i ffiniau'r wlad. Pob nos, mae gwestai enwog yn ymuno â'r cyflwynydd yn y stiwdio. Mae yna dîm o ohebyddion o Lanelli a Chaernarfon sy'n dod ag adroddiadau byw i'r rhaglen bob nos. Ers mis Hydref 2008, mae'r rhaglen yn cael ei darlledu 5 gwaith yr wythnos yn hytrach na 4 noson fel y gwnai cyn hynny.
Ceir hefyd chwaer-raglen o'r enw Wedi 3 sy'n darlledu am awr bob pnawn ar S4C Digidol yn unig. Prif gyflwynwyr y rhaglen honno yw John Hardy ac Elinor Davies. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio'n bennaf ar sgyrsiau yn y stiwdio gyda gwestai rheolaidd yn dod i siarad am bynciau fel coginio a ffasiwn ac adolygu'r papurau newydd ac adolygiadau o'r llyfrau diweddaraf.