Gwesty a Sba Dewi Sant

Oddi ar Wicipedia
Gwesty a Sba Dewi Sant
Mathgwesty Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDewi Sant Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1999 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4605°N 3.1673°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganPrincipal Hayley Group Edit this on Wikidata
Map

Gwesty pum seren[1] yng Nghaerdydd yw Gwesty a Sba Dewi Sant (Saesneg: St David's Hotel & Spa), ychydig oddi ar ffordd yr A4232, ac yn agos i orsaf reilffordd Bae Caerdydd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Hwn oedd y gwesty pum seren cyntaf yng Nghymru,[2] ac mae gan yr adeilad gyntedd uchel a tho sy'n ymdebygu hwyl cwch i adlewyrchu ei leoliad wrth ochr y bae. Mae'r gwesty ar lannau Bae Caerdydd gyda golygfeydd dros Gei'r Forforwyn a Morglawdd Bae Caerdydd.

Perchennog gwreiddiol y gwesty oedd grŵp Gwestai Rocco Forte. Fe'i prynwyd gan Grŵp Principal Hayle yn 2007.

Llety[golygu | golygu cod]

Mae 142 o stafelloedd ar gael i westai yn cynnwys rhai sengl, dwbl a swît. Gall y gwestai fwyta yn Tides Bar and Grill, sy'n gweini bwyd o Gymru.

Mae gan y gwesty wyth ystafell gyfarfod sy'n dal hyd at 40 bobl yr un. Mae gan ystafell Dylan Thomas le i eistedd uchafswm o 270 ac ystafell Roald Dahl yn dal hyd at 200.

Adnoddau[golygu | golygu cod]

Mae Spa Dewi Sant yn cynnig therapi thalasso ynghyd â thriniaethau holistaidd ac aromatherapi. Mae'r adnoddau yn cynnwys pwll nofio, pyllau hydrotherapi a champfa.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]