Gorsaf reilffordd Bae Caerdydd
| Bae Caerdydd |
||
|---|---|---|
| Saesneg: Cardiff Bay | ||
| Lleoliad | ||
| Lleoliad | Bae Caerdydd | |
| Awdurdod lleol | Caerdydd | |
| Gweithrediadau | ||
| Côd gorsaf | CDB | |
| Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru | |
| Nifer o blatfformau | 1 | |
|
gan National Rail Enquiries |
||
| Defnydd teithwyr blynyddol | ||
| 2009-10 | ||
| 2010-11 | ||
Mae gorsaf reilffordd Bae Caerdydd (Saesneg: Cardiff Bay railway station), a adnabyddid gynt fel "Caerdydd Heol Bute", yn orsaf sydd yn gwasanaethu Bae Caerdydd ac ardal Tre-Biwt. Mae'n derfyn deheuol Llinell Gangen Butetown un filltir (1.5 km) i'r de o orsaf Heol y Frenhines.
Dim ond un llwyfan sydd bellach yn cael ei defnyddio, gydag adeilad yr orsaf ei hun wedi'i gadael i fynd a'i ben iddo i bob pwrpas. Mae adeilad yr orsaf yn gorwedd ar Stryd Bute, er bod gweddill yr orsaf yn parhau i fod yn weladwy o Rodfa Lloyd George.
Mae'r orsaf o fewn pellter cerdded i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu darparu gan Drenau Arriva Cymru.
Hanes [golygu]
Agorodd yr orsaf fel gorsaf "Dociau Caerdydd" ym 1840 gan Reilfford Dyffryn Tâf (peirianydd: Isambard Kingdom Brunel). Ail-enwyd yn orsaf "Stryd Biwt" gan Reilffordd y Great Western ym 1924, cyn newid i'w enw presennol ym 1994. Adnewyddwyd yr adeilad yn ystod yr 1980au a defnyddwyd am gyfnod fel amguedfa reilffordd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Reilffordd Hanesyddol Biwt (a symudodd ym 1997 i Reilffordd Bro Morgannwg).[1]
Gwasanaethau [golygu]
Mae yna wasanaethau rhwng Heol y Frenhines a Bae Caerdydd bob 12 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (rhwng 0630 a 2330) a phob 12 munud ar ddydd Sul (rhwng 1100 a 1630). Mae'n cael ei redeg gan "car swigen" Dosbarth 121, a adeiladwyd ym 1960.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.Hutton, John (2006). . Silver Link.