Gwenynysorion

Oddi ar Wicipedia
Gwenynysorion
Gwybedog gwenyn, (Merops apiaster)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Coraciiformes
Teulu: Meropidae
Rafinesque, 1815
Genera

Teulu o adar yw'r Gwenynysorion (Lladin: Meropidae). Mae'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau sy'n perthyn i'r teulu hwn yn frodorol o Affrica ac Asia ond ceir llond dwrn yn Ewrop, Awstralia a Gini Newydd. Yr hyn sy'n eu nodweddu yw eu plu amryliw llachar, cyrff main, hir a chynnfonau gydag un bluen ganolog yn hirach na'r gweddill. Mae ganddyn nhw i gyd dro yn eu pigau, a hwnnw'n troi ar i lawr, ac adenydd tebyg i'r wennol. Ceir 26 rhywogaeth gwahanol.

Fel yr awgryma'r enw, gwenyn yw eu prif fwyd, cacwn ac unrhyw fath arall o bryfaid. maent yn eu dal wrth iddynt hedfan, ac mae pryfaid a morgrug yn 20% i 96% o'u diet dyddiol. Cyn llyncu ei ysglyfaeth mae'r Gwenynysydd yn tynnu'r colyn drwy ei daro yn erbyn wyneb caled craig ayb. Drwy wneud hyn mae'n gwaredu'r rhan fwyaf o'r gwenwyn.

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Gwenynysor bach Merops pusillus
Gwenynysor bronwinau'r De Merops oreobates
Gwenynysor cynffonlas Merops philippinus
Gwenynysor du Merops gularis
Gwenynysor fforchog Merops hirundineus
Gwenynysor gwyrdd Merops orientalis
Gwenynysor gyddfgoch Merops bulocki
Gwenynysor mygydog Merops bullockoides
Gwenynysor penwinau Merops leschenaulti
Gwybedog gwenyn Merops apiaster
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]