Gruffudd Llwyd ap Rhys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Syr Gruffudd Llwyd ap Rhys (marw cyn 12 Gorffennaf 1335), Arglwydd Tregarnedd, yn uchelwr o Fôn ac yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan; roedd yn arwr traddodiadol gwrthryfel tybiedig 1322.[1][2] Dywedir mai ef a gludodd y newyddion at Edward I Brenin Lloegr ei fod wedi cael mab yng Nghastell Caernarfon. Disgrifir ef mewn dwy gerdd gan y bardd Gwilym Ddu a alwai Gruffudd yn "Llew Trefgarnedd", sef ei gartref ym Môn.

Roedd ganddo dir yn Sir Ddinbych, yn Llansadwrn yn Sir Gaerfyrddin, ac yn Llanrhystud yn Sir Aberteifi. Roedd wedi etfeddu Tregarnedd a'r tiroedd yn sir Ddinbych ar ôl ei dad, Rhys ap Gruffydd, a fu farw yng ngwanwyn 1284. Am rai blynyddoedd ochrai gyda brenin Lloegr ac yn 1283 derbyniwyd ef fel yeoman yng ngwasanaeth teulu'r brenin. Roedd eisoes yn farchog pan dalodd wrogaeth yn 1301 i Edward o Gaernarfon fel tywysog newydd Cymru. Parhaodd yn gyson hyd y diwedd yn ei deyrngarwch i'r brenin.

Bu farw cyn 12 Gorffennaf 1335. Ei fab Ieuan oedd ei olynydd. Credir iddo hefyd, o'i briodas â Gwenllian, merch Cynan ap Maredudd gael saith o ferched.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 06 Rhagfyr 2012
  2. [1] Dictionary of National Biography, 1885-1900, Volume 34']'; adalwyd 06/12/2012