Gorsaf reilffordd Mayhill Trefynwy
Oddi ar Wicipedia
| Mayhill Trefynwy |
||
|---|---|---|
| Saesneg: Monmouth Mayhill | ||
| Lleoliad | ||
| Lle | Trefynwy | |
| Awdurdod lleol | Sir Fynwy | |
| Gweithrediadau | ||
| Nifer o blatfformau | 1 | |
| Hanes | ||
| Agor | 4 Awst, 1873 | |
| Cau | 5 Ionawr, 1959 | |
Mae gorsaf reilffordd Mayhill Trefynwy (Saesneg: Monmouth Mayhill railway station) yn orsaf rheilffordd segur ar Reilffordd Ross a Threfynwy, cafodd ei agor yn 1873 ac wedyn ei chau yn 1959. Roedd yr orsaf yn un o ddwy orsaf a oedd yn gwasanaethu tref Trefynwy yng Nghymru ac wedi ei leoli ar y lan arall yr Afon Gwy o Drefynwy. Hwn oedd y derfynfa gychwynnol y llinell, ond cafodd y llinell ei hymestyn ar draws Afon Gwy i'r orsaf gyffordd Troy Trefynwy yn 1874.
Fe'i hagorwyd yn wreiddiol fel gorsaf dros dro ac yn fuan daeth i fod yn orsaf barhaol. Mae'r adeilad yr orsaf wedi ei ddymchwel, ond mae'r llwyfannau yn dal i fodoli.