George McGovern

Oddi ar Wicipedia
George McGovern
Ganwyd19 Gorffennaf 1922 Edit this on Wikidata
Avon, De Dakota Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 2012 Edit this on Wikidata
Sioux Falls, De Dakota Edit this on Wikidata
Man preswylBazelon-McGovern House, Chevy Chase Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Dakota Wesleyan University
  • Prifysgol Northwestern
  • Mitchell High School
  • Garrett–Evangelical Theological Seminary Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, hanesydd, hunangofiannydd, academydd, ymgyrchydd heddwch Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, United States Ambassador to the United Nations Agencies for Food and Agriculture, llysgennad, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodEleanor McGovern Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Groes am Hedfan Neilltuol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aer, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Gwobr Bwyd y Byd Edit this on Wikidata
llofnod

Hanesydd a gwleidydd Americanaidd oedd George Stanley McGovern (19 Gorffennaf 192221 Hydref 2012) oedd yn ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd ar gyfer etholiad arlywyddol 1972.

Ganwyd yn Ne Dakota, a gwasanaethodd fel peilot bomio yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel aeth i brifysgol, gan ennill doethuriaeth ym 1953, a dysgodd hanes a gwyddor gwleidyddiaeth. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cynrychiolwyr ym 1956, y Cyngreswr Democrataidd cyntaf yn Ne Dakota mewn 20 mlynedd. Gadawodd y Tŷ ym 1960 i ymgyrchu am y Senedd, ond collodd yr etholiad. Cafodd ei benodi'n gyfarwyddwr y rhaglen Bwyd am Heddwch dan yr Arlywydd John F. Kennedy. Ym 1962 cafodd ei ethol i'r Senedd.[1]

Ef oedd y seneddwr cyntaf i godi ei lais yn erbyn ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam. Enillodd enwebiad y Blaid Ddemocrataidd am yr arlywyddiaeth ym 1972, ac ymgyrchodd ar bolisïau rhyddfrydol, gan bwysleisio encilio lluoedd Americanaidd rhag Fietnam a diddymu gorfodaeth filwrol.[2] Collodd yr etholiad i'r deiliad Richard Nixon, ac i nifer o geidwadwyr roedd McGovern yn symbol o fethiant polisïau'r Democratiaid. Gadawodd gwleidyddiaeth wedi iddo gael ei drechu mewn etholiad seneddol ym 1980. Ym 1997, penododd yr Arlywydd Bill Clinton McGovern yn llysgennad i Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig.[1]

Mae etifeddiaeth McGovern i'r Blaid Ddemocrataidd yn ddadleuol. O ganlyniad i'w wrthwynebiad i Ryfel Fietnam daeth yn arweinydd i adain chwith y blaid, a llwyddodd ei ymgyrch arlywyddol i ddenu nifer o fyfyrwyr a blaengarwyr,[2] ond cyhuddwyd McGovern gan nifer o Ddemocrataidd o gyfeiliorni'r blaid a dieithrio pleidleiswyr.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Rosebaum, David E. (21 Hydref 2012). Dashed Presidential Hopes, but a Life Devoted to Liberalism. The New York Times. Adalwyd ar 21 Hydref 2012.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Obituary: George McGovern, former US presidential candidate. BBC (21 Hydref 2012). Adalwyd ar 21 Hydref 2012.