Garamantes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pobl yn byw yn y Sahara ac yn siarad Berber oedd y Garamantes. Sefydlasant deyrnas yn ardal Fezzan, yn yr hyn sy'n Libya heddiw, gan ddefnyddio system ddyfrio tanddaearol gymhleth. Roeddynt yn rym sylweddol yn y Sahara rhwng 500 CC a 500 OC.

Enw a roddwyd arnynt gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid oedd "Garamantes"; ni wyddir beth oedd eu henw arnynt eu hunain. Roedd eu prifddinas yn Germa, tua 150 km i'r gorllewin o Sebha. Ymddengys fod eu crefydd wedi ei seilio ar grefydd yr Hen Aifft, ac roedd eu meirwon yn cael eu claddu mewn pyramidiau bychain. Roedd ganddynt gysylltiadau masnachol â'r Sudan a Niger, dros y Sahara, gan brynu a gwerthu ifori, metalau gwerthfawr fel aur ac arian, a chaethweision hefyd.

Cyfeiria'r hanesydd Groegaidd Herodotus at y Garamantes (IV.83) fel pobl oedd yn byw yn Libia mewn teyrnas oedd yn gorwedd 30 diwrnod ar droed o lan y Môr Canoldir.

Roedd ganddynt berthynas agos â dinas Carthago ac am gyfnod buont yn gwasanaethu fel marchogion ym myddin y Carthaginiaid, a ddibynnai'n fawr ar hurfilwyr. Dywedir fod ganddynt gerbydau rhyfel pedwar ceffyl a'u bod yn gerbydwyr medrus iawn.

Ymddengys i'r deyrnas golli grym wrth i'r hinsawdd droi'n sychach. Cofnodir i frenin y Garamantes wneud cytundeb heddwch a'r Ymerodraeth Fysantaidd yn 569.