Fiona Collins

Oddi ar Wicipedia
Fiona Collins
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr Baner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, storiwr Edit this on Wikidata

Awdur a storïwr yw Fiona Collins (geni 14 Ebrill 1953).[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cafodd ei geni yn Swydd Hampshire, roedd ei mam yn Gymraes ond ddim yn medru'r iaith. Am gyfnod bu'n byw yn Sir Fôn cyn symud i Lundain. Symudodd yn ôl fyw yng Nghymru yn 2001 gan ymgartrefu yng Ngharrog a'i hail iaith yw Cymraeg.[2]

Enillodd gradd BEd Dosbarth Cyntaf mewn Addysg gyda Drama o Brifysgol Llundain ym 1980; MA Iaith, Y Celfyddydau ac Addysg o Brifysgol Sussex ym 1990 a PhD am ei thraethawd am Adrodd Straeon mewn Addysg o Brifysgol Surrey ym 1999. Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae hi'n adrodd straeon yn y Gymraeg, ac yn ddwyieithog i ddysgwyr Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Ffrangeg, Eidaleg a Rwsieg. Mae hi wedi gweithio fel storïwr preswyl therapiwtig yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Maelor, Wrecsam.[1]

Yn storïwr proffesiynol ers 1989, bu Fiona yn gweithio'n flaenorol yn theatr i blant, addysgu anghenion cynradd ac arbennig ac fel cynghorydd addysgol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar straeon am fenywod a merched cryf, ac am Chwedlau Cymru. Mae'n arwain grwpiau ysgrifennu creadigol ac wedi cyhoeddi tri llyfr sy'n cynnwys nifer o straeon gwerin Cymru a'r byd.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys:

  • Folk Tales for Bold Girls (2019)
  • North Wales Folk Tales for Children (2016)
  • The Legend of Pryderi (2013)
  • Memories of Pontcysyllte (2007)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "CV Fiona Collins Arts Connection - Cyswllt Celf" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-06-09. Cyrchwyd 2019-11-08.
  2. "Ysu i adrodd chwedlau'n Gymraeg". BBC Cymru Fyw. 2019-07-29. Cyrchwyd 2019-11-08.
  3. "www.gwales.com - 9780750990493, Folk Tales for Bold Girls". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-07.
  4. "Fiona Collins | Arts Connection - Cyswllt Celf". artsconnection.org.uk. Cyrchwyd 2019-11-07.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Fiona Collins ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.