Fifty Shades of Grey
Oddi ar Wicipedia
| Fifty Shades of Grey | |
|---|---|
| Awdur | E. L. James |
| Teitl gwreiddiol | Fifty Shades of Grey |
| Gwlad | Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Cyhoeddwr | The Writer's Coffee Shop |
| Dyddiad cyhoeddi | 20 Mehefin 2011 |
| Math y cyfrwng | e-lyfr, clawr meddal |
| ISBN | ISBN 978-1612130286 |
Nofel erotig a gyhoeddwyd gan yr awdur Prydeinig E. L. James yn 2011 ydy Fifty Shades of Grey. Lleolir y mwyafrif o'r nofel yn Seattle, a dyma yw'r rhan gyntaf o dair nofel sy'n olrhain hanes y berthynas rhwng myfyriwr graddedig, Anastasia Steele, gyda gŵr busnes ifanc, Christian Grey. Mae'r nofel yn adnabyddus am ei golygfeydd o natur rywiol sy'n cynnwys elfennau o BDSM.
Enwyd yr ail a'r drydedd nofel yn Fifty Shades Darker a Fifty Shades Freed. Cyrhaeddodd Fifty Shades of Grey frig y siart lyfrau yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.[1][2] Mae'r gyfres wedi gwerthu tua deng miliwn o gopïau yn fyd eang, gyda hawliau'r llyfrau wedi'u gwerthu mewn 37 gwlad.[3]
Bydd Kelly Marcel yn sgriptio addasiad ffilm o'r nofel.[4]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ EL James' Fifty Shades of Grey tops New York Times list (31 Mai 2012).
- ↑ Erotic book Fifty Shades Of Grey becomes UK bestseller. BBC (31 Mai 2012).
- ↑ 10 Million Shades of Green: Erotic Trilogy Dominates Book Sales. New York Times.
- ↑ (Saesneg) Terra Nova creator to write Fifty Shades screenplay. BBC (9 Hydref 2012). Adalwyd ar 10 Hydref 2012.